RTITB Hyfforddiant Gwrthbwyso Wagen Fforch Godi Codau B1, (Profiadol)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Un Ymgeisydd - 2 diwrnod
,Dau Ymgeisydd - 3 diwrnod
,Tri Ymgeisydd - 3 diwrnod
RTITB Hyfforddiant Gwrthbwyso Wagen Fforch Godi Codau B1, (Profiadol)Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithredwyr sydd â phrofiad blaenorol (ond ddim â thystiolaeth o hyfforddiant blaenorol) i gael eu hyfforddi i ddefnyddio tryc fforch godi gwrthbwyso'n ddiogel.
Bydd y cwrs hyfforddi gweithredydd Tryc Codi Gwrthbwyso RTITB (a gyfeirir yn aml fel fforch godi) yn rhoi'r sgiliau i chi weithredu'r tryc yn ddiogel ac effeithiol, gwneud archwiliad cyn-ddefnydd, a chofio ac esbonio achosion ansefydlogrwydd tryc a llwyth.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i'r ardaloedd canlynol;
Rheolyddion ac offerynnau Tryc Codi
- Cychwyn/symud/stopio a llywio'r tryc
- Gweithredu'r rheolyddion hydrolig
- Gyrru ar/oddi ar ramp
- Llenwi a dad-lenwi cerbyd
- Stacio a dadstacio
- Sefydlogrwydd Tryc Codi
- Cod diogelwch gweithredwyr
Gofynion mynediad
Dim.
Cyflwyniad
Byddwch yn dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu ac ymarferion ymarferol yn y dosbarth.
Asesiad
Dim asesiad.
Dilyniant
Gallech ddewis un o blith amryw o gyrsiau gwahanol sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Dwyieithog:
n/a