Defnydd Diogel o Dip Defaid

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Glynllifon
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 ddiwrnod

Gwnewch gais
×

Defnydd Diogel o Dip Defaid

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn hanfodol i'r rhai sy'n dipio defaid.

Byddwch yn derbyn tystysgrif cymhwysedd C@G NPTC ac mae angen hon er mwyn cael prynu a defnyddio dipiau defaid. Mae'r cwrs yn ymwneud â dehongli labeli a deall dulliau o reoli parasitiaid allanol cyffredin. Mae hefyd yn ymdrin â defnyddio dipiau defaid yn ddiogel, Iechyd a Diogelwch a chydymffurfio â deddfwriaeth.

Ffi: £225

Gofynion mynediad

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol

Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

  • sesiynau addysgu
  • sesiynau ymarferol

Asesiad

  • arholiad amlddewis
  • prawf asesu ymarferol

Dilyniant

Gall ymgeiswyr ddilyn cyrsiau Amaethyddol pellach yn y Coleg, fel:

  • Lles anifeiliaid sy'n cael eu cludo
  • Cneifio

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Glynllifon