Cwrs Cyn-fynediad i Addysg Uwch
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Y Rhyl, Caernarfon, Ty Cyfle - Bangor High Street
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
34 wythnos. 3 diwrnod yr wythnos.
Cwrs Cyn-fynediad i Addysg UwchLlawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r rhaglen hon ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio cwrs Lefel 3 Mynediad i Addysg Uwch.
Byddwch yn astudio ystod o feysydd sy'n gysylltiedig â'r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn rhaglen Mynediad. Mae opsiwn o gwblhau TGAU Rhifedd a Saesneg wedi’u cynnwys yn y rhaglen.
Prif ffocws y cwrs yw gwella sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol wrth baratoi i astudio ar Lefel 3.
Ty Cyfle - Caernarfon/ Bangor - Unedau astudio:
- Rhifedd
- Llythrennedd
- Llythrennedd Digidol
- Diwylliant ac Arferion Cymru
- Hanes Cymru
- Sgiliau Astudio
- Y Gyfraith
- Seicoleg
- Cymdeithaseg
- Iechyd Personol
Rhyl - Unedau astudio:
- Rhifedd
- Llythrennedd
- Sgiliau Digidol
- Sgiliau astudio
- Y Corff dynol
- BTEC Workskills
Gofynion mynediad
3 TGAU gradd D neu uwch, ac 1 TGAU gradd E, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg iaith 1af a Mathemateg, neu Lefel 1 SHC mewn rhifedd a chyfathrebu.
Gall y rhai sydd wedi cwblhau Sgiliau Astudio Pellach Lefel 1 yn llwyddiannus yng Ngrŵp Llandrillo-Menai symud ymlaen yn syth i'r cwrs lefel 2 yn amodol ar dderbynl geirda da gan diwtoriaid.
Fel rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i chi fynychu cyfweliad i roi’r cyfle i chi drafod y cwrs.
Rhaid i ddysgwyr fod yn 19 oed o leiaf.
Cyflwyniad
- Darlithoedd
- Gwaith grwp
- Cefnogaeth tiwtorial
- Maes dysgu rhithiol (Google Classroom/Safleoedd)
- Trafodaeth
- Arddangosiadau
- Cyflwyniadau
- Llyfrau Gwaith / Tasgau
- Adolygiadau
- Arholiad
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Achrediad ar ôl cwblhau portffolio tystiolaeth yn llwyddiannus a gynhyrchir trwy gydol y cwrs.
Dilyniant
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn Gofal Iechyd
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch Biowyddoniaeth
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch Gwyddoniaeth
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach), Rhan amser
Lefel:
2
Dwyieithog:
n/a