Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach (Dechrau ym mis Ionawr 2025)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    3 diwrnod yr wythnos

Cofrestrwch
×

Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach (Dechrau ym mis Ionawr 2025)

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r rhaglen hon yn addas i fyfyrwyr sy'n dymuno mynd ymlaen i astudio ar Lefel 3 ac sydd â'u bryd ar ddilyn cwrs addysg uwch.

Byddwch yn astudio amrywiaeth o feysydd sy'n ymwneud â'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddilyn rhaglen Lefel 3 yn llwyddiannus. Yn ystod y cwrs byddwch yn cwblhau cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd.

Gofynion mynediad

I fod yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn, dylech fod wedi cael profiad o sgiliau bywyd perthnasol am o leiaf dair blynedd ar ôl gadael addysg orfodol. Byddwch hefyd angen o leiaf un o'r isod:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Cymhwyster Lefel 1 perthnasol

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Rhaid i ddysgwyr fod yn 19 oed o leiaf.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • Amgylchedd dysgu rithwir (Google Classroom/Sites)

Asesiad

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios Gwaith
  • Arholiadau
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch
  • Cymwysterau galwedigaethol Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser, Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2