Prentisiaethau ym maes Cefnogi Addysgu
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Lefel 2 = 12 mis
Lefel 3 = 16 mis
Cymhwyster rhan-amser yw hwn ac mae disgwyl i'r dysgwr ymgymryd â'i hastudiaethau uniongyrchol eu hunain.
Prentisiaethau ym maes Cefnogi AddysguPrentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio'n benodol i fodloni anghenion y rhai sydd eisoes yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn ysgolion. Serch hynny, gan fod y cymhwyster Lefel 2 yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth mae'n addas hefyd i'r sawl sy'n awyddus i weithio mewn ysgol.
Mae'r Diploma Lefel 3 yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol sy'n addas ar gyfer y rhai sy'n gweithio i gefnogi dysgu a lles plant ac felly fe'i hargymhellir ar gyfer y rhai sydd yn y swyddi hyn neu sy'n awyddus i gael swyddi o'r fath.
Gofynion mynediad
Rhaid i'r dysgwyr fod mewn gwaith cyflogedig neu'n gweithio'n wirfoddol mewn ysgol fel cynorthwywyr ystafell ddosbarth.
Rhaid cael cyfweliad cyn dechrau'r cymhwyster.
Cyflwyniad
Arsylwadau, dysgu uniongyrchol, trafodaethau proffesiynol a thystiolaeth gan y cyflogwr.
Gall unigolion gwblhau'r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
Asesiad
Gwaith ysgrifenedig, arsylwadau, trafodaethau ac ati
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster Lefel 2, mae'n bosibl mynd ymlaen i wneud y cymhwyster Lefel 3.
(Sylwer - ar ôl iddynt gymhwyso, gall nifer o unigolion gael cyflog uwch yn eu swydd bresennol).
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
2+3
Maes rhaglen:
- Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dwyieithog:
n/a
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant