Diploma Cysylltiol CIPD mewn Rheoli Pobl
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Online
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 year
Diploma Cysylltiol CIPD mewn Rheoli PoblProffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Dystysgrif mewn Rheoli Pobl yn gymhwyster newydd a gynigir gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu y gallwch ei ddilyn ar-lein drwy Grŵp Llandrillo Menai.
Mae'n addas ar gyfer gweithwyr sydd eisoes yn rheolwyr ym maes Adnoddau Dynol, neu sy'n dymuno bod yn rheolwyr yn y maes.
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau AD unigol mewn pynciau sy'n gysylltiedig ag adnoddau dynol cyfoes. Bydd y pwyslais ar y berthynas rhwng rheoli AD a strategaeth y sefydliad a'r modd y'i cyfunir â rheolaeth linell.
Bydd astudio at gymhwyster CIPD ar lefel ganolradd yn rhoi i chi'r wybodaeth sydd ei hangen i fod yn aelod cyswllt proffesiynol newydd o'r CIPD.
Yn ogystal â'r cymwysterau ffurfiol, byddwch wedi meithrin y cymwyseddau a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddod yn rheolwr ym maes AD heddiw.
Byddwch hefyd wedi dysgu llawer gan eraill a fu'n dilyn y cwrs gyda chi.
Yn ystod y flwyddyn, byddwch yn astudio'r pynciau a ganlyn. Mae pob pwnc yn cynnwys llawer o drafod yn y dosbarth a rhyngweithio ymysg myfyrwyr. Caiff yr holl fodiwlau eu dysgu gan staff profiadol sydd â phrofiad helaeth o weithio yn eu maes.
5C001 Perfformiad a Diwylliant Sefydliadol ar waith
5C002 Ymarfer ar Sail Tystiolaeth
5C003 Ymddygiad Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl
5HR01 Rheoli Perthynas Cyflogi
5HR Rheoli Talent a Chynllunio'r Gweithlu
5HR03 Gwobr am Berfformio a Chyfrannu
SO507 Lles yn y Gwaith
Prentisiaeth
Gallwch hefyd astudio'r cyrsiau hyn fel rhan o brentisiaeth uwch rheoli adnoddau dynol.
Gofynion mynediad
I gael eich derbyn ar y cwrs hwn, gorau oll os oes gennych Dystysgrif CIPD neu os ydych yn gweithio ym maes AD. Fodd bynnag, ystyrir pob cais gan arweinydd y cwrs ar sail teilyngdod. Bydd gofyn i bawb sy'n cyflwyno cais ddod i gyfweliad ffurfiol.
Yn ogystal, bydd gofyn i chi fod yn aelod o CIPD trwy gydol y cwrs. Mae'n bosibl y bydd gofyn i chi fod yn aelod am ail flwyddyn. Ar hyn o bryd, mae'n costio £165 i ymaelodi am flwyddyn (ond gall CIPD newid y gost). Mae hyn ar ben eich ffioedd cwrs.
Bydd gofyn cael cadarnhad bod gan y myfyrwyr y sgiliau sylfaenol angenrheidiol a'u bod yn gallu bodloni gofynion y cwrs o ran asesu. Mae Grŵp Llandrillo Menai'n deall ei bod yn bosib nad yw rhai myfyrwyr wedi astudio ers tro, ac felly cynigir cefnogaeth bersonol i fyfyrwyr newydd.
Cyflwyniad
Defnyddir amrediad eang o ddulliau dysgu i gyflwyno cwrs y Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl ac mae'r cwbl yn digwydd ar-lein.
Asesiad
Asesir pob modiwl drwy gyfrwng aseiniadau. Nid oes arholiadau ffurfiol.
Dilyniant
Ymhlith y cyrsiau proffesiynol pellach y gallwch eu hastudio, mae Diploma Uwch CIPD mewn Rheoli Pobl a gynigir mewn canolfannau CIPD eraill.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol
Lefel:
5
Maes rhaglen:
- Business and Management
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: