Tystysgrif NEBOSH Rheoli Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladu
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
11 diwrnod dros 11 wythnos
Tystysgrif NEBOSH Rheoli Iechyd a Diogelwch ym maes AdeiladuProffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae cwrs NEBOSH - Rheoli Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladwaith (Prydain) yn canolbwyntio ar arferion gorau'r diwydiant o ran rheoli a defnyddio systemau rheoli diogelwch.
Mae'n addas i reolwyr, goruchwylwyr ac unrhyw un sy'n gweithio ym maes adeiladwaith. Mae'n ddelfrydol i unrhyw un sydd angen gwybodaeth eang am faterion iechyd a diogelwch ym maes adeiladwaith i allu rheoli risgiau'n effeithiol o ddydd i ddydd.
Wedi cwblhau'r cwrs NEBOSH - Rheoli Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladwaith (Prydain) bydd gennych y wybodaeth a'r sgiliau i:
- Gyfiawnhau'r angen am welliannau o ran iechyd a diogelwch yn defnyddio dadleuon moesol ac ariannol
- Cynghori ar ddyletswyddau a rheoli risgiau ym maes adeiladwaith dan Reoliadau Adeiladwaith (Cynllunio a Rheoli) 2015
- Hyrwyddo ymddygiad a diwylliant cadarnhaol o ran iechyd a diogelwch i wella perfformiad mewn sefydliadau
- Cydnabod unrhyw newidiadau yn y gweithle sy'n gysylltiedig ag effeithiau iechyd a diogelwch arwyddocaol a chanfod ffurf effeithiol i leihau'r effeithiau hynny
- Datblygu systemau gwaith diogel (yn cynnwys ystyried argyfyngau nodweddiadol) a gwybod pryd i ddefnyddio systemau trwyddedu gwaith yn achos risgiau arbennig
- Cymryd rhan mewn ymchwiliadau i ddigwyddiad
- Cynnal asesiad risg ar safleoedd adeiladu a rheoli amrywiaeth o beryglon cyffredin, gwerthuso risgiau (ystyried trefniadau cyfredol), argymell mesurau rheoli pellach a chynllunio camau gweithredu.
- Llunio neu gyfrannu at gynllun camau adeiladu
- Helpu i reoli contractwyr
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno o bell gan diwtor mewn dosbarth ar-lein rhithwir a bydd gofyn i'r sawl sy'n cymryd rhan ddefnyddio cyfrifiadur, gliniadur neu dabled priodol gyda chamera, seinydd a chysylltiad gwe cryf i allu gweithio ar y cwrs ar-lein.
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn. Fodd bynnag, mae'r dystysgrif NEBOSH hwn yn gymhwyster Lefel 3 sydd gyfwerth â Lefel A neu gymhwyster tebyg mewn colegau ym Mhrydain. Golyga hyn bod y cymhwyster yn un trwm i'w astudio a rhaid i'r dysgwyr fod yn barod i astudio ar y lefel hon.
Rhaid bod gan ddysgwyr safon addas o iaith Saesneg er mwyn medru deall ac ynganu'r cysyniadau a gynhwysir yn y maes llafur.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno o bell gan diwtor mewn dosbarth ar-lein rhithwir a bydd gofyn i'r sawl sy'n cymryd rhan ddefnyddio cyfrifiadur, gliniadur neu dabled priodol gyda chamera, seinydd a chysylltiad gwe cryf i allu gweithio ar y cwrs ar-lein.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfrwng sesiynau addysgu a gwaith grŵp.
Asesiad
Mae'r asesiad yn arholiad gyda llyfrau agored a fydd yn seiliedig ar senario realistig a fydd yn profi yr hyn rydych chi'n ei wybod a'r hyn allwch chi ei wneud. Bydd gofyn i chi wneud cyfres o dasgau yn defnyddio'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn y senario yn ogystal â'r wybodaeth rydych chi wedi'i ddysgu wrth astudio ac adolygu. Bydd gennych 48 awr i lawrlwytho, cwblhau a chyflwyno eich asesiad.
Bydd eich asesiad yn cael ei farcio gan arholwyr allanol a benodir gan NEBOSH. Caiff yr arholwyr hyn eu dewis am eu profiad a'u harbenigedd i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu hasesu gan swyddogion gorau yn ein diwydiant.
Dilyniant
Diploma NEBOSH
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Iechyd a Diogelwch
Dwyieithog:
n/a