Cymhwyster Bar Triphlyg ym maes Cynhyrchu Pŵer Niwclear

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      Llangefni
    • Dull astudio:
      Rhan amser
    • Hyd:

      2 ddiwrnod

    Gwnewch gais
    ×

    Cymhwyster Bar Triphlyg ym maes Cynhyrchu Pŵer Niwclear

    Cyrsiau Byr

    Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Unrhyw un sy'n gweithio ar unrhyw lefel yn y gadwyn gyflenwi, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â dylunio cynnyrch, cynhyrchu, archwilio a phrofi, gwerthu, caffael a rheoli prosiect.

    Cyflwynir y wybodaeth allweddol ar ffurf tri modiwl cysylltiedig:

    Ymwybyddiaeth Niwclear Sylfaenol (BNA)

    Hanes y diwydiant niwclear a'i ddiwylliant unigryw. Mae'n cynnwys: ymbelydredd a llygredd, beth sy'n ffurfio gorsaf pŵer niwclear, hanes pŵer niwclear yn y Deyrnas Unedig, cydymffurfio a rheolau diogelwch a gwersi a ddysgwyd.

    Ansawdd Niwclear Sylfaenol (BNQ)

    Beth a olygir wrth ofynion ansawdd ar gyfer cynhyrchu niwclear? Mae'n cynnwys: manylebau cynllunio, dogfennau ansawdd a chanlyniadau defnyddio cydrannau gwael neu ddiffygiol gan ddefnyddio astudiaethau achos.

    Ansawdd Niwclear Sylfaenol (BNB)

    Beth yw'r safonau ymddygiad sy'n ofynnol gan y diwydiant niwclear? Mae'n cynnwys: pwysigrwydd ymddygiadau diogel a'r diwylliant niwclear o ddiogelwch, offer a thechnegau perfformio dynol er atal camgymeriadau, arsylwadau yn y gweithle ac adrodd ar ddamweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd.

    Gofynion mynediad

    Datblygwyd y Bar Triphlyg ar gyfer Cynhyrchu Niwclear (TBNM) gan Gynhyrchwyr Niwclear ar gyfer Cynhyrchwyr Niwclear.

    Mae'n rhoi dealltwriaeth gadarn i unigolion sy'n gweithio yn y sector gweithgynhyrchu o'r hyn sy'n gwneud y diwydiant niwclear yn wahanol i ddiwydiannau eraill. Mae'n ddelfrydol ar gyfer gweithwyr sy'n newydd i'r sector yn ogystal â gweithwyr profiadol nad ydynt hyd yma wedi cael unrhyw hyfforddiant yn y maes niwclear.

    Mae'r hyfforddiant yn darparu gwybodaeth ar lefel sylfaenol.

    Cyflwyniad

    • amgylchedd dosbarth
    • ymarferion ymarferol
    • ymarferion theoretig

    Asesiad

    • prawf TBNM terfynol (prawf cwestiynau amlddewis sy'n 30 munud o hyd)

    Gwneir hyn er mwyn sicrhau dealltwriaeth o ofynion y diwydiant o ran cydymffurfiad a chanlyniadau peidio â pherfformio'n briodol.

    Dilyniant

    Award in Nuclear Industry Awareness (ANIA)

    Mwy o wybodaeth

    Math o gwrs: Cyrsiau Byr

    Lefel: N/A

    Dwyieithog:

    n/a