Prentisiaeth - Cynorthwyydd Nyrsio Milfeddygol Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Glynllifon
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 Diwrnod yr Wythnos (Dydd Mawrth)
34 Wythnos Dros 12-18 Mis
Prentisiaeth - Cynorthwyydd Nyrsio Milfeddygol Lefel 2Prentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Nod y cymhwyster Cynorthwyydd Nyrsio Milfeddygol yw paratoi a chefnogi myfyrwyr ar gyfer gyrfa o fewn Practis Milfeddygol. Mae'n rhoi cyfle dilyniant* i'r Diploma L3 mewn Nyrsio Milfeddygol.
Bydd y cwrs yn cael ei addysgu gan Nyrsys Milfeddygol Cymwysedig profiadol yng nghyd-destun anifeiliaid bach (cŵn, cathod, cwningod, gerbilod, bochdewion a mamaliaid bach eraill a gall gynnwys ymlusgiaid, adar a chrwbanod).
Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys anatomeg a ffisioleg, iechyd anifeiliaid, dyletswyddau derbyn, iechyd a diogelwch, rheoli heintiau, trin anifeiliaid a chynorthwyo gyda gofal anifeiliaid.
Gofynion mynediad
O leiaf tri llwyddiant TGAU.
Gellir derbyn cymwysterau amgen os ydynt yn amlwg yn gyfwerth.
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith cyflogedig mewn Clinig Milfeddygol am o leiaf 16 awr yr wythnos.
Mae hyn yn cynnwys amser a dreulir yn y coleg. Rhaid i'r ymgeisydd dreulio 51 % o'i amser cyflogedig yng Nghymru.
Cyflwyniad
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o’r canlynol:
Darlithoedd, i gwmpasu'r ddamcaniaeth
Profiad ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig gydag amrywiaeth o anifeiliaid mewn cyfleusterau pwrpasol ar Gampws Glynllifon
Lleoliad gwaith a hyfforddiant gyda hyfforddwr clinigol dynodedig fel myfyriwr Nyrsio Milfeddygol cyflogedig ar sail rhyddhau diwrnod o fewn practis hyfforddi.
Sylwch: yn wahanol i'r cwrs L3 nid oes angen i'r practis fod yn bractis hyfforddi achrededig RCVS ar gyfer y cwrs hwn.
Asesiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth wedi'u hasesu gan:
Arholiadau amlddewis wedi'u gosod a'u marcio'n allanol x 2
Aseiniadau wedi'u Gosod yn Allanol wedi'u marcio gan Glynllifon x 3
Sgiliau ymarferol wedi'u hasesu gan:
Log cynnydd electronig yn seiliedig ar waith - Log Sgiliau Canolog
Dilyniant
Mae’r Diploma Cynorthwyydd Nyrsio Milfeddygol yn gymhwyster ar ei ben ei hun sy’n galluogi ymgeiswyr llwyddiannus i weithio fel Cynorthwyydd Nyrsio Milfeddygol.
Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i Brentisiaeth Nyrsio Filfeddygol L3.
*Os nad oes gennych TGAU Gwyddoniaeth gradd C neu uwch bydd angen Teilyngdod arnoch ar y cwrs hwn i symud ymlaen i'r L3, ynghyd â'r gofynion mynediad eraill.
Gwybodaeth campws Glynllifon
Grwp Llandrillo Menai is Wales's largest Further Education Institution and one of the largest FE college groups in the UK. Veterinary Nurse and Veterinary Nurse Assistant training is delivered at its Glynllifon Campus in North Wales.
The Glynllifon site is 750 acres of farm and woodland, with a newly built animal centre comprising lecture/IT rooms, grooming room, laboratory and Vet Nursing practical room. This will allow your studies to be carried out in a realistic setting.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
2
Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :
- Glynllifon