Prentisiaeth - Nyrsio Milfeddygol Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Glynllifon
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2½-3 blynedd

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Nyrsio Milfeddygol Lefel 3

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa'n gweithio gydag anifeiliaid? Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Nyrs Filfeddygol Cofrestredig ?

Campws Coleg Meirion-Dwyfor yng Nglynllifon yw un o'r unig ganolfannau yng ngogledd Cymru i gynnig y cwrs Central Qualifications Lefel 3 sydd wedi'i gymeradwyo gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon. Yn ôl Deddf Milfeddygon 1966, ni allwch ymgymryd â holl ddyletswyddau Nyrs Filfeddygol gymwysedig heb y cymhwyster hwn.

Mae'r cwrs yn addas i chi os ydych eisoes yn ymwneud â'r ochr nyrsio mewn milfeddygfa, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gydag anifeiliaid.

Dyma rai o'r unedau a astudir:

  • Deall gofynion rhedeg milfeddygfa
  • Anatomeg a Ffisioleg
  • Lles, iechyd a hwsmonaeth anifeiliaid
  • Rheoli heintiau
  • Cymorth nyrsio
  • Nyrsio mewn argyfwng a gofal critigol
  • Cyflenwi meddyginiaethau
  • Sgiliau diagnostig
  • Anaesthesia
  • Gweithio mewn labordy
  • Gweithio mewn ystafell lawdriniaethau

Rhaid i ddysgwyr hefyd gael addewid o leoliad gwaith drwy gydol y cwrs mewn Milfeddygfa Hyfforddi a gymeradwywyd. Bydd gofyn i chi gael o leiaf 1,800 awr o hyfforddiant ymarferol gyda Darparwr Hyfforddiant.

Gofynion mynediad

  • 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
  • Efallai y bydd cymwysterau eraill lefel 2 neu uwch yn cael eu derbyn - bydd hyn yn cael ei drafod yn y cyfweliad.
  • Rhaid i'r rhai sydd am gael lle ar y rhaglen ddod i gyfweliad.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd, er mwyn ymdrin â'r theori
  • Profiad ymarferol gydag amrediad o anifeiliaid mewn amgylchedd gweithio realistig, mewn cyfleusterau pwrpasol ar gampws Glynllifon
  • Profiad gwaith a hyfforddiant gyda hyfforddwr clinigol dynodedig, fel myfyriwr Nyrs Filfeddygol cyflogedig ar sail rhyddhau am y dydd o fewn practis hyfforddi

Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf byddwch yn treulio un diwrnod yr wythnos yn Dysgu Ar-lein o Bell gyda'ch darlithydd, un diwrnod y tymor yn y coleg, a thri neu bedwar diwrnod yr wythnos yn y practis.

Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn sefyll arholiadau ymarferol allanol ac yn treulio oriau'n gweithio yn y maes cyn gwneud cais am gael eich cofrestru gyda Choleg Brenhinol y Milfeddygon.

Saif Glynllifon ar 750 acer o dir amaethyddol a choetir, a cheir yno ganolfan farchogaeth dan do a chanolfan anifeiliaid er mwyn i chi allu astudio mewn amgylchedd realistig.

Asesiad

  • 6 x Aseiniad a osodir gan Central Qualifications (CQ) ac a weinyddir gan y Canolfannau. Caiff y rhain eu marcio gan y Ganolfan yn unol â'r meini prawf a osodwyd gan CQ
  • 4 x arholiad amlddewis a osodir ac a weinyddir gan CQ
  • 1 x papur arholiad atebion byr a osodir ac a weinyddir gan CQ
  • ⁠Cwblhau'r CSL (Central Skills Log) sy'n seiliedig ar waith 3 blynedd

Bydd sgiliau ymarferol yn cael eu hasesu trwy:

  • Gwblhau'r ⁠CSL seiliedig ar waith yn electronig dros 2 i 3 blynedd ⁠ ⁠ ⁠⁠
  • Arholiad ymarferol (OSCE) sy'n cynnwys 12 prawf ymarferol. Caiff y rhain eu gosod a'u gweinyddu gan CQ a byddwch yn eu sefyll mewn canolfan a gymeradwywyd gan CQ, ⁠ar benwythnos fel arfer.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch gael gyrfa werth chweil, a gall dysgwyr fynd ymlaen i weithio yn y sector Nyrsio Milfeddygol, fel Nyrs Filfeddygol Gofrestredig.

Gall y dysgwyr fynd ymlaen hefyd i ennill cymwysterau uwch yn y sector e.e. y BSc/FD/HND mewn Nyrsio Milfeddygol.

Ym maes Nyrsio Milfeddygol, mae cyfleoedd hefyd i arbenigo mewn meysydd penodol e.e. ymddygiad, rheoli clwyfau.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 3

Dwyieithog:

n/a