Dyfarniad Lefel 2 VTCT mewn Technoleg Ewinedd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 awr yr wythnos am 20 wythnos

Cofrestrwch
×

Dyfarniad Lefel 2 VTCT mewn Technoleg Ewinedd

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Cwrs Acrylig i Ddechreuwyr

Byddwch yn dysgu sut i feistroli'r sgiliau sylfaenol gan gynnwys; troshaenau acrylig, set lawn o estyniadau, gosod blaenau a thechnegau ffeilio.

Byddwch yn dysgu theori anatomeg a ffisioleg ewinedd, a pharatoi a gofalu am ewinedd naturiol yn gywir.

Yn dilyn eu gosod yn llwyddiannus, byddwn wedyn yn dangos i chi sut i gynnal a chadw ewinedd eich cleient a phan fo angen, eu tynnu'n ddiogel gan amddiffyn yr ewinedd naturiol.

Gofynion mynediad

Dim

Cyflwyniad

Gwylio arddangosiadau a chwblhau sgiliau ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig.

  • Anatomeg a Ffisioleg
  • Iechyd a Hylendid
  • Diogelwch yn y salon
  • Afiechydon ac Anhwylderau Ewinedd
  • Gwrtharwyddion o Wasanaeth
  • Paratoi'r Ewinedd Naturiol
  • Troshaenau Acrylig
  • Technegau Blaen a Throshaen
  • Cynnal a chadw, a Mewnlenwadau
  • Tynnu'n Ddiogel
  • Polish Gel dwylo a thraed

Dysgu cyfunol, rydym yn cyflwyno deunydd theori i chi ar-lein ac mewn sesiynau ymarferol.

Bydd gennych hefyd fynediad ar-lein i: arddangosiadau ymarferol a deunydd theori.

Asesiad

9 o Arsylwadau ymarferol - dangos sgiliau.

Gwaith theori, un llyfr gwaith - dangos gwybodaeth.

Arholiad amlddewis ar-lein ar ddiwedd uned .

Dilyniant

  • Therapi Harddwch Lefel 2
  • Dyfarniad Lefel 3 mewn Ffasiwn, y Cyfryngau a Ffotograffiaeth
  • Lefel 2 VTCT mewn Rhoi Hwb i flew'r amrannau
  • ⁠Dyfarniad Lefel 2 VTCT mewn Triniaethau Blew'r Aeliau a'r Amrannau
  • Dyfarniad NVQ Lefel 3 VTCT mewn Triniaethau Gosod Blew Amrannau Unigol Ychwanegol
  • Gweithdy Builder Gel

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 2