Dyfarniad Estynedig Lefel 2 VTCT mewn Sgiliau Gwallt a Harddwch
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Un diwrnod yr wythnos drost 31 o wythnosau
Dyfarniad Estynedig Lefel 2 VTCT mewn Sgiliau Gwallt a HarddwchLlawn Amser (Addysg Bellach)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Sylwer: Darpariaeth ysgol yn unig yw hon.
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau i chi allu gweithio'n gymwys.
Trwy gydol y cymhwyster hwn byddwch yn monitro gweithdrefnau i reoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel, cyfrannu at gynllunio a gweithredu eich asesiadau gan fodloni meini prawf y corff dyfarnu.
Gofynion mynediad
Rhaid i’r dysgwr fod wedi cwblhau Lefel 1
Cyflwyniad
Fel rhan o'r cymhwyster hwn mae'n ofynnol i chi gynhyrchu portffolio o dystiolaeth a all fod ar y ffurfiau canlynol:
- Gwaith a arsylwyd
- Datganiadau tyst
- Cyfryngau clyweledol
- Tystiolaeth o ddysgu neu gyrhaeddiad blaenorol
- Cwestiynau ysgrifenedig
- Cwestiynau llafar
- Aseiniadau
- Tystiolaeth astudiaethau achos
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
- Arholiad
- Asesiadau
- Aseiniadau
- Gwaith cwrs
Dilyniant
Tystysgrif mewn Trin Gwallt Lefel 2
Therapi Harddwch Lefel 2
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
2