Dyfarniad NVQ Lefel 2 VTCT mewn triniaethau Aeliau a Blew'r Amrannau

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    ORIAU DYSGU DAN ARWEINIAD 45

    Caiff hyn ei gyflwyno fel model hybrid gyda rhai agweddau y byddwch yn eu dysgu eich hunan. Bydd gennych fynediad i wefan grŵp caeedig i gymryd rhan yn y cwrs. Cynhelir yr holl asesiadau ymarferol yn salon masnachol y coleg.

    Dydd Mercher 1-4pm ar gampws y Rhyl. Y ffi yw £190 gan gynnwys arholiad. Bydd angen cit ar ddysgwyr - cost i'w gadarnhau

Cofrestrwch
×

Dyfarniad NVQ Lefel 2 VTCT mewn triniaethau Aeliau a Blew'r Amrannau

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r uned hon ynglŷn â darparu triniaethau blew llygaid ac aeliau. ⁠Mae'n cynnwys y defnydd o amrywiaeth o dechnegau ymgynghori i sefydlu'r driniaeth a'r canlyniadau gofynnol gan y cleient. Byddwch angen medru darparu siapio aeliau a thriniaethau blew llygaid artiffisial gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau gwaith. Byddwch hefyd angen medru lliwio aeliau a blew llygaid ar gyfer cleientiaid gyda nodweddion lliwio gwahanol (h.y. golau, coch, tywyll a gwyn).

Gofynion mynediad

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol o flaen llaw cyn i chi ymgymryd gyda'r cymhwyster hwn.

Cyflwyniad

Yn rhan o'r cymhwyster, mae gofyn i chi gynhyrchu portffolio tystiolaeth a all gymryd y ffurfiau canlynol:

  • Gwaith a arsylwyd
  • Datganiadau gan dystion⁠
  • Cyfryngau clyweledol
  • Tystiolaeth o ddysgu neu gyrhaeddiad blaenorol
  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Cwestiynau llafar
  • Aseiniadau
  • Tystiolaeth astudiaethau achos.

Asesiad

  • Gwaith a arsylwyd

  • Un arholiad.

Dilyniant

  • ⁠Cyfleoedd gwaith

  • Diploma Lefel 2/3 mewn Harddwch

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 2