Llesiant trwy Fyfyrio a Meddwlgarwch

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Caernarfon, Caergybi, Canolfan Felin Fach - Pwllheli
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Dwy awr yr wythnos trwy gydol y flwyddyn academaidd.

Cofrestrwch
×

Llesiant trwy Fyfyrio a Meddwlgarwch

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Cwrs cefnogol yw hwn sy'n ein dysgu sut i ddod â meddwlgarwch i'n bywydau er mwyn byw yn y presennol mewn ffordd iachach a hapusach. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Bob wythnos byddwn yn cwblhau dau fyfyrdod gwahanol ac yn edrych ar ffyrdd hawdd o ymarfer meddylgarwch yn ddyddiol er mwyn cael llai o straen yn ein bywydau. Mae'r rhan fwyaf o'r cyflwyno'n digwydd yn Saesneg, er bod rhywfaint o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio hefyd.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad.

Cyflwyniad

Bydd dau fyfyrdod yn cael eu hwyluso bob wythnos, felly gall y dysgwyr roi cynnig ar fyfyrdodau amrywiol. Mae'r grŵp hefyd yn trafod gwahanol agweddau ar feddwlgarwch a myfyrdod, yn aml mewn ymateb i erthygl. Bob wythnos, mae'r dysgwyr yn cael tasg feddwlgarwch fer i'w chwblhau gartref, ac yna'n cael adborth yn y dosbarth.

Asesiad

Dim.

Dilyniant

N/A

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Skills for Life