Twf Swyddi Cymru+
Twf Swyddi Cymru+ yw rhaglen newydd Llywodraeth Cymru sy'n helpu pobl ifanc 16-19 oed i symud ymlaen i fyd gwaith.
Beth yw Twf Swyddi Cymru+?
Twf Swyddi Cymru+ yw rhaglen newydd Llywodraeth Cymru sy'n helpu pobl ifanc 16-19 oed i symud ymlaen i fyd gwaith. Cewch gymorth am ddim fydd wedi'i deilwra i'ch anghenion ac yn cynnwys gwasanaeth mentora, cyngor, hyfforddiant, profiad neu leoliadau gwaith a chyfleoedd i wneud cais am swyddi. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau, ennill cymwysterau a chael profiad gwaith. Byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu ac yn magu hyder hefyd!
Efallai eich bod yn chwilio am y swydd iawn i chi, yn pendroni pa gwrs i'w wneud neu eisiau rhywfaint o gefnogaeth i gyrraedd eich nod.
Dyna ble y gall Twf Swyddi Cymru+ eich helpu. Mae'n ffordd wych o roi hwb i'ch hyder ac i gael profiad o'r math o waith y mae gennych ddiddordeb ynddo. Cewch hefyd fanteisio ar hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi cyflogedig gyda chyflogwyr yn yr ardal.
Ydw i'n gymwys?
I fod yn gymwys am hyfforddiant TSC+ mae'n rhaid i chi:
- fod rhwng 16 ac 19 oed
- peidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
- bod yn byw yng Nghymru
Nid ydych yn gymwys os ydych chi:
- o oedran ysgol gorfodol
- yn 20 oed neu hŷn
- yn mynychu ysgol neu goleg yn llawn amser fel disgybl neu fyfyriwr
- mewn addysg uwch llawn amser
Faint fydd yr hyfforddiant yn ei gostio?
Dim. Bydd Llywodraeth Cymru'n talu holl gostau'r hyfforddiant.
Byddwch yn derbyn:
- lwfans hyfforddi o hyd at £60 yr wythnos yn dibynnu ar eich presenoldeb
- lwfans cinio o £3.90 y dydd
- costau teithio i'r canolfannau hyfforddi a'r lleoliadau profiad gwaith ac oddi yno
- clwb brecwast am ddim
Oes angen unrhyw sgiliau neu gymwysterau blaenorol arnaf?
Na.
Pa gyrsiau TSC+ sydd ar gael? Pryd maen nhw'n dechrau?
Mae gennym amrywiaeth eang o raglenni sy'n cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn, felly gallwch ymuno unrhyw bryd.