Prentisiaid a staff yn cael profiad o awtistiaeth a dementia yn uniongyrchol mewn digwyddiad realiti arloesol.
Cafodd prentisiaid a staff yn Grŵp Llandrillo Menai deimlo sut brofiad ydy hi i fyw gyda dementia ac awtistiaeth fel rhan o brofiad arloesol o drochi mewn realiti.
Ymwelodd y Daith Dementia Rhithwir - a adwaenir yn aml fel y "bws dementia" â safleoedd Busnes@LlandrilloMenai yn Abergele, Bangor a Dolgellau gan roi cyfle unigryw i fyfyrwyr a staff i gael profiad uniongyrchol o sut y gallai deimlo i ddioddef o dementia.
Ymwelodd y 'Profiad o Realiti Awtistiaeth' â sawl safle, gan gynnig cyfle i gyfranogwyr i brofi'r ymdeimlad synhwyraidd llethol y gall pobl sy'n dioddef o'r anhwylder sbectrwm Awtistiaeth yn aml ei wynebu.
Darparwyd y profiadau ymdrwythol gan Training2Care, ac fe'u cefnogwyd gan Gronfa Arloesi Grŵp Llandrillo Menai.
Amy Thomas, rheolwr Dysgu yn y Gweithle Iechyd a Gofal Cymdeithasol drefnodd yr ymweliadau gan eu disgrifio fel "profiad pwerus". Teimlai y byddai yn fanteisiol iawn i brentisiaid sy'n dysgu gofalu am bobl gydag un ai dementia neu awtistiaeth.
Roedd yr adborth gan fyfyrwyr a staff ar y cyfan yn gadarnhaol, gyda nifer yn tynnu sylw at y mewnwelediad yr oedd wedi rhoi iddynt o sut brofiad ydy hi i fyw gyda'r amodau y maent yn dysgu gofalu amdanynt.
Dywedodd Amy: "Roeddwn eisiau gwneud y mwyaf o'r cyfle arloesol hwn a
rhoi profiad i'n holl ddysgwyr a fyddai yn sail ar gyfer eu gwybodaeth
ac yn cynyddu eu dealltwriaeth.
"Roedd yn dda i'r dysgwyr sy'n gweithio gyda dementia i ddysgu mwy am awtistiaeth, ac i'r gwrthwyneb. Yn yr un modd, cafodd y rhai sydd â phrofiad yn barod o weithio gyda chleifion a chleientiaid sydd ag anghenion cymhleth y profiad synhwyraidd llawn fel sail ar gyfer eu hymarfer hefyd.
"Yn eu gwerthusiadau, dywedodd pobl y gwnaeth iddyn nhw i feddwl o ddifrif am y gwaith a wnânt, a'i bod yn dda i gael profiad realistig o sut beth yw cael dementia. Gwnes ef fy hun ac roedd yn brofiad pwerus."
Dywedodd Megan Lowe, myfyriwr ar y prentisiaethau uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Roedd y profiad yn wych. Rhoddodd fewnwelediad o sut mae'n teimlo i fyw gydag Awtistiaeth a'r anhawster y gall pobl ei wynebu yn eu bywyd o ddydd i ddydd; "
Dywedodd Emma Jones, sydd ar yr un cwrs,: "Mwynheais y profiad, mae wedi rhoi dealltwriaeth well i mi o ba mor anodd y gall bywydau o ddydd-i-ddydd pobl sy'n byw gydag awtistiaeth fod."
Dywedodd Hannah Lloyd, aseswr a sicrhawr Ansawdd Mewnol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rhoddodd y bws dementia gipolwg bychan i mi sut brofiad yw bod ar daith dementia. Helpodd fi i ddeall sut y gall tasgau syml fod mor anodd a pha mor rhwystredig y gall fod ar gyfer rhywun sy'n byw gyda dementia.
Dywedodd Elysha Westwell, aseswr a sicrhawr Ansawdd Mewnol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "fel aelod newydd o staff roedd y bws dementia wir yn addysgiadol ac rwy'n credu ei fod yn offeryn da i'w ddefnyddio ar gyfer ein dysgwyr. Roedd hefyd yn ffordd wych o wella fy DPP."