Celtic Financial Planning yn Anelu am Ddyfodol Cynaliadwy

Gyda mwy o bwyslais ar daclo newid hinsawdd, mae busnes yn yr Wyddgrug wedi cymryd y cam i fod yn fwy gwyrdd trwy gofrestru gyda’r Academi Ddigidol Werdd. Nod y cynllun sy’n cael ei arwain gan Busnes@LlandrilloMenai yw rhoi cefnogaeth a chyllideb i fusnesau bach i leihau carbon yn eu gweithgareddau o dydd i ddydd.

Ers ei sefydlu yn 2018, mae Celtic Financial Planning wedi ymrwymo i'r gymuned leol ac mae'r cwmni'n cymryd ei gyfrifoldebau cymdeithasol ac amgylcheddol o ddifrif. Penderfynodd cyfarwyddwr y cwmni, Robert Lewis, gymryd rhan yn yr Academi Ddigidol Werdd gan ei fod yn awyddus i barhau ar eu taith i fod yn fwy cynaliadwy. Roedd yn teimlo bod y rhaglen yn cyd-fynd ag amcanion y busnes i fod yn amgylcheddol gyfeillgar.

Dywedodd: "Mae'r rhaglen wedi bod mor fuddiol i ni fel cwmni. Yn aml mae’n anodd gwybod lle i ddechrau, felly mae gweithio gydag ymgynghorydd sy'n arbenigwr ac yn annibynnol i werthuso’r busnes a darparu cyngor wedi bod yn amhrisiadwy.

"Diolch i'r gefnogaeth rydym wedi gallu adolygu ein cynllun lleihau carbon a chael mynediad at gyllid sydd wedi caniatáu i ni roi argymhellion ar waith."

Mae Busnes@LlandrilloMenai yn rhan o Grŵp Llandrillo Menai, ac yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth sydd wedi ei dargedu’n benodol at fusnesau. Trwy’r prosiect hwn y nod yw helpu perchnogion busnes i ddeall sero net ac i gymryd camau i ateb y galw cynyddol am gynnyrch a gwasanaethau ecogyfeillgar. Y gobaith yw y bydd yr Academi Ddigidol Werdd hefyd yn helpu cwmnïau fod yn fwy masnachol trwy leihau costau cynhyrchu a gwella effeithlonrwydd.


Donna Hodgson yw'r Rheolwr Prosiect Rhanbarthol gyda Busnes@LlandrilloMenai. Dywedodd: “Rydym yn awyddus i weithio gyda busnesau bach yn arbennig yn Sir Ddinbych, Fflint a Chonwy i’w helpu nhw i gyrraedd targedau sero net. Rydym yn deall bod hyn yn gallu bod yn her ond gyda’n cefnogaeth, gall busnesau gael cyngor ac arian i’w rhoi nhw ar y trywydd iawn.

“Mae diddordeb gwirioneddol wedi bod yn y prosiect yn barod – ond mae ychydig o le yn dal i fod ar ôl. Rydw i yn annog unrhyw fusnes sy’n dymuno ymuno i gysylltu â ni cyn gynted â phosib fel y gallwn eu helpu nhw i leihau carbon mewn ffordd sydd o fudd i’w busnes a’r amgylchedd.”

Nae gan Celtic Financial gynllun manwl yn ei le erbyn hyn ac wedi derbyn cyllid i weithredu ar yr argymhellion. Maen nhw’n gyffrous am y dyfodol wrth iddynt barhau i adeiladu ar eu statws carbon sero. Mae'r Academi Ddigidol Werdd wedi derbyn £1.4 miliwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.