Canolfan CIST ym Mhenygroes i Ddod â Budd i'r Sector Adeiladu yng Ngwynedd

Mae Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg Busnes@LlandrilloMenai (CIST) ar fin ehangu ei darpariaeth hyfforddi arloesol ym maes datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy ac ôl-osod mewn canolfan ddatgarboneiddio newydd yn Nhŷ Gwyrddfai, Penygroes.

Gan adeiladu ar ei bartneriaeth ag Adra, drwy Gyngor Gwynedd sicrhaodd Busnes@LlandrilloMenai £500k o arian o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin i ddarparu hyfforddiant ym maes datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn cynnwys inswleiddio waliau allanol, gosod a chynnal a chadw paneli solar, gosod systemau sy'n pwmpio gwres o'r ddaear ac o'r aer a systemau storio batri gyda chynlluniau i ehangu'r ddarpariaeth wrth i dechnolegau newydd ddatblygu.

Mae gan Busnes@LlandrilloMenai brofiad o ddarparu hyfforddiant o ansawdd ym maes datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy gan ei fod eisoes yn cynnig ystod o gyrsiau arbenigol ac ardystiedig yng Nghanolfan CIST yn Llangefni.

Esbonia Gareth Hughes, Rheolwr Canolfan CIST ac Arloesedd:

“Mae'r prosiect hwn yn gyfle cyffrous i fusnesau a chwmnïau lleol fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy gan greu swyddi a thwf economaidd tra hefyd yn lleihau allyriadau carbon a chostau ynni. Bydd yr adnoddau hyn yn sicrhau bod busnesau lleol yn y sector adeiladu yn gallu manteisio ar y cyfleoedd newydd sy'n codi o ddatgarboneiddio ac ôl-osod.”

Un o gleientiaid Canolfan CIST yw Gwyn Jones, perchennog G&D Jones Ltd sef cwmni sy'n arbenigo mewn gwaith trydanol a phlymio. Yn ddiweddar mae Gwyn wedi arallgyfeirio ei wasanaethau i gynnwys systemau biomas a phympiau gwres.

“Mae cynnydd sylweddol yn y defnydd o dechnolegau adnewyddadwy mewn cartrefi. Erbyn hyn mae bron i 90% o'r gwaith a wnawn mewn cartrefi newydd yn cynnwys gosod pympiau gwres neu baneli solar. ⁠Yn sicr, mae ein cwsmeriaid yn fwy ymwybodol o ynni adnewyddadwy ac mae hyd yn oed yn fwy poblogaidd yng nghefn gwlad lle nad yw tai wedi'u cysylltu i'r prif gyflenwad.

“Roedd y cyfle i feithrin sgiliau o fewn ein cwmni a'r gallu i hyfforddi'n lleol yn apelio ata i, yn enwedig gan ein bod yn gweithio mewn ardaloedd gwledig sy'n aml yn anghysbell iawn. Mae ansawdd yn bwysig iawn i mi yn y busnes, felly mae'r cyrsiau hyn yn ein helpu i wneud yn siŵr ein bod yn ymwybodol o'r safonau diweddaraf. Mae cymryd rhan ynddynt hefyd yn galluogi'r busnes i dyfu wrth i ni barhau i ddysgu.”


Mae G&D Jones Ltd wedi cael hyfforddiant ar osod pympiau gwres o'r ddaear a'r aer a systemau storio batri drwy Ganolfan CIST yn Llangefni.

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin y rhan ganolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae'n darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw cynyddu balchder pobl yn eu cymuned a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU drwy fuddsoddi'n lleol mewn busnesau, pobl a sgiliau.

Am fyw o wybodaeth cysylltwch 08445 460 460