Daniel ac Oleksandr yn ennill bwrsariaethau tŵls gwerth £1,000
Roedd gan adran blymio Coleg Llandrillo ddau ymgeisydd llwyddiannus wnaeth dderbyn y wobr gan Monument Tools a'r Worshipful Company of Plumbers - gyda dim ond chwe gwobr yn cael eu dyfarnu ar draws y Deyrnas Unedig
Mae dau brentis plymwr gyda Grŵp Llandrillo Menai wedi derbyn tŵls gwerth £1,000 gan Monument Tools a'r Worshipful Company of Plumbers.
Roedd Daniel Carver ac Oleksandr Dobrohorskyi ymhlith chwe ymgeisydd llwyddiannus o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ar gyfer y fwrsariaeth hon.
Cynigir y fwrsariaeth bob blwyddyn gan y Worshipful Company of Plumbers, gyda'r noddwyr Monument Tools yn rhoi pecynnau tŵls cynhwysfawr i'r enillwyr.
Mae Daniel ac Oleksandr ill dau ar brentisiaeth Lefel 3 Plymwaith a Gwresogi trwy Busnes@LlandrilloMenai, gan gyfuno eu cyflogaeth ag astudio un diwrnod yr wythnos ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.
Yn eu cais am y fwrsariaeth, bu’n rhaid iddynt ateb cwestiynau am eu llwybr i mewn i’r diwydiant plymio, a beth fyddai ennill yr offer yn ei olygu i’w gyrfaoedd.
Cawsant offer yn cynnwys plygwyr pibellau, sbaneri, torwyr pibellau, blwch tŵls a llawer mwy.
Mae Daniel, o'r Bermo, yn gweithio i Andrew Stone Plumbing and Heating.
Dywedodd: “Bydd hyn yn bendant yn rhoi dechrau gwell i mi yn y diwydiant. Dydy'r tŵls yma ddim yn rhad, a bydd hyn yn fy helpu i ddatblygu fy sgiliau a symud ymlaen ymhellach ar fy llwybr gyrfa.”
Bu Oleksandr yn gweithio fel plymwr yn ei wlad enedigol, Wcráin. Bellach yn byw yn Nwygyfylchi ger Penmaenmawr, mae’n gweithio i JM Renewables ac yn astudio'r cwrs Lefel 3 er mwyn datblygu ei yrfa.
Dywedodd: “Mae'r tŵls hyn yn ddefnyddiol iawn o'r safbwynt y gallwch chi gael llif gwaith gwell, cwblhau eich tasgau yn gyflymach a gwella'ch sgiliau.
“Maen nhw wedi'u gwneud yn dda iawn, maen nhw'n ddibynadwy ac yn wydn. Ac unwaith y bydd gennych yr offer hyn gallwch eu defnyddio am amser maith.”
Dechreuodd Daniel ym maes toi, ond cafodd brofiad o waith plymwr gyda pheiriannydd hyfforddedig a phenderfynodd newid gyrfa.
Mae’n mwynhau ei gwrs yng Ngholeg Llandrillo, gan ddweud: “Mae’r tiwtoriaid yn dda iawn – maen nhw’n help mawr pan fyddwch chi’n cael trafferth.
“Mae’r cwrs yn gallu bod yn anodd, ond mae’n anodd am reswm. Mae gan y tiwtoriaid safonau uchel felly mae'n rhaid i chi weithio'n galed ac adolygu, a phan fyddwch chi'n gadael yma rydych chi'n blymwr cymwys.
Roedd yr asesydd plymio Chris Walling wrth ei fodd fod dau o'i brentisiaid wedi ennill y bwrsariaethau y mae galw mawr amdanynt.
Dywedodd: “Rydw i wedi annog ein prentisiaid plymio a gwresogi i wneud cais am y fwrsariaeth ers sawl blwyddyn, felly rydw i’n falch iawn bod gennym ddau enillydd eleni.
“Bydd hyn yn golygu llawer iawn iddyn nhw, gan ei fod yn hwb enfawr i’w gyrfaoedd, gydag offer mor ddrud y dyddiau hyn. Bydd yn arbennig o ddefnyddiol iddynt gael tŵls gan wneuthurwr mor adnabyddus ac uchel ei barch."
Hoffech chi weithio yn y diwydiant adeiladu? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel gradd, gan gynnwys prentisiaethau. Cewch wybod rhagor yma.