Cyfle Cyffrous Newydd i Fusnesau!

Y Pasg hwn, bydd Busnes@LlandrilloMenai yn lansio ei ganolfan hyfforddi newydd ym Mharc Busnes Llanelwy. Trwy gynnig cymysgedd dynamig o hyfforddiant masnachol a datblygu sefydliadol, mae'r lleoliad wedi'i gynllunio i helpu busnesau i Dyfu, Dysgu, a Llwyddo.

Peidiwch â cholli'r cyfle i hybu eich tîm ac i ysgogi llwyddiant – ymunwch â ni i ryddhau potensial llawn eich busnes heddiw!

Mae Busnes@LlandrilloMenai ym Mharc Busnes Llanelwy yn barod i fod yn rym ysgogol yn yr economi ranbarthol. Trwy gynnig ystod amrywiol o atebion hyfforddi bydd yn grymuso busnesau, sefydliadau, a gweithwyr gan roi iddynt y sgiliau a'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i sicrhau twf cynaliadwy a llwyddiant hir dymor.

Bydd y ddarpariaeth yn canolbwyntio ar ddatblygu sefydliadol, dysgu-micro ac atebion hyfforddi pwrpasol. Bydd yn mynd â'r afael â materion diwydiannol allweddol fel Sgiliau Twf, Ynni a Chyfleustodau, Seilwaith, Diwydiannau'r Tir a Bwyd ac Economi'r Bobl, a chaiff yr holl hyfforddiant ei theilwra i'ch anghenion.

Mae Busnes@LlandrilloMenai yn ymestyn yr hyfforddiant sydd ar gael yn sgil yr arian a gafwyd gan Gyngor Sir Ddinbych trwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r Academi Ddigidol Werdd, ac yn creu gwaddol a fydd yn cyfrannu at dwf economaidd a gallu'r rhanbarth i ddefnyddio arferion mwy cynaliadwy, fel ynni adnewyddadwy, ôl-osod, arbed ynni, datgarboneiddio a thechnoleg ddigidol.

Meddai Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr – Datblygiadau Masnachol:

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn agor canolfan newydd ym Mharc Busnes Llanelwy. Trwy ehangu rydyn ni'n dangos ein hymrwymiad i fodloni'r galw cynyddol am hyfforddiant ac i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion i lwyddo yn y farchnad swyddi ddynamig bresennol. Rydyn ni'n teimlo'n gryf bod angen ysgogi arloesedd, a chydweithio mewn ffordd sy'n diwallu'r angen lleol am hyfforddiant.”

Mae lansiad Busnes@LlandrilloMenai ym Mharc Busnes Llanelwy yn dangos ymrwymiad cadarn i gryfhau gallu'r gweithlu, i hybu twf economaidd, ac i rymuso busnesau a'u gweithwyr i gyrraedd eu potensial llawn. Trwy fynd i'r afael â gofynion hyfforddi unigryw busnesau ac unigolion, mae Busnes@LlandrilloMenai wedi ymroi i ddarparu atebion hyfforddi hygyrch a safonol a fydd yn ysgogi llwyddiant busnesau yng ngogledd Cymru a thu hwnt.

Cymerwch y cam cyntaf at ryddhau potensial eich busnes. Ewch i'n gwefan neu cysylltwch â Busnes@LlandrilloMenai ym Mharc Busnes Llanelwy heddiw i gychwyn ar eich taith.

I gael rhagor o wybodaeth - Cysylltwch â ni.

Pagination