Glynllifon yn arddangos dyfeisiau newydd arloesol Agri-Tech
Partneriaid Clwstwr Agri-Tech Cymru yn ymweld â’r campws i ddysgu rhagor am ddatblygiadau technolegol a allai fod o fudd i’r sector amaethyddol
Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Glynllifon ymweliad addysgiadol i Glwstwr Agri-Tech Cymru i arddangos datblygiadau arloesol mewn technoleg amaethyddol sy’n digwydd ar y campws.
Crëwyd Clwstwr Agri-Tech Cymru i hyrwyddo cydweithio ac arloesi yn y sector ffermio yng ngogledd Cymru, ac mae’n cael ei reoli gan M-SParc.
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn bartner amlwg yn y clwstwr, a gwahoddodd aelodau eraill i weld y gwaith sy’n digwydd ar gampws Glynllifon a fydd o fudd nid yn unig i’w fyfyrwyr, ond i fusnesau yn y diwydiannau ffermio a choedwigaeth.
Roedd y sefydliadau a ddaeth i'r digwyddiad yn cynnwys Uchelgais Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor, BionerG, Coleg Cambria, Data Cymru, Dŵr Cymru, Menter Môn, M-SParc ac Wynnstay.
Cawsant gyflwyniad ar ddyfeisiau Agri-Tech - o'r gorffennol, presennol a'r dyfodol - sy’n cael eu treialu yng Nglynllifon, cyn cael golwg fwy manwl o’r dechnoleg yn y gweithdai.
Roedd rhai o'r datblygiadau arloesol a amlygwyd yn ystod y sesiwn yn cynnwys yr AgBot, tractor cwbl awtonomaidd cyntaf y DU sydd ar gael yn fasnachol; Chirrup.ai, teclyn wedi'i bweru gan AI sy'n monitro bioamrywiaeth drwy nodi galwadau 148 o rywogaethau adar gwahanol; a'r ganolfan odro defaid sydd ar y gweill er mwyn datblygu cyfleoedd busnes i ffermwyr defaid Cymru.
Roedd y cyflwyniad hefyd yn cynnwys astudiaethau diweddar yng Nglynllifon, gan gynnwys treialon hydroponeg i dyfu cnydau, systemau TechnoGrazing ar gyfer defaid a gwartheg, defnyddio bioleg i reoli pryfed mewn unedau moch a synwyryddion LoRaWAN i gynorthwyo ffermwyr i wneud penderfyniadau.
Roedd yr arweinwyr technoleg a sefydliadau eraill a fynychodd y digwyddiad wedi’u plesio gan y gwaith arloesol sy’n digwydd ar gampws Glynllifon, stad hanesyddol 700 erw sy’n cynnwys 400 erw o dir fferm a 300 erw o goetir.
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SPrac: “Darparodd Glynllifon y lleoliad perffaith i arddangos y datblygiadau diweddaraf sy’n siapio dyfodol amaethyddiaeth; maent yn amlwg yn arwain y ffordd yn y rhanbarth wrth fabwysiadu’r dechnoleg newydd.
“Mae’r Clwstwr Agri-Tech yn ymwneud â meithrin cydweithio, ac mae digwyddiadau fel hyn yn amlygu pŵer dod â'r diwydiant, y byd academaidd a thechnoleg ynghyd i ysgogi cynnydd. Rydw i'n falch iawn y gallwn gefnogi’r diwydiant newydd hwn ac edrychaf ymlaen at weld mwy o syniadau’n cael eu datblygu a’u mabwysiadu yn y rhanbarth.”
Meddai Alwyn Roberts, Rheolwr Prosiect Dŵr yn Dŵr Cymru: “Roedd yn wych gweld yr arloesi sy’n digwydd yng Nglynllifon a sut mae gwella effeithlonrwydd cynhyrchu ffermydd a diogelu ansawdd dŵr yn mynd law yn llaw.
“Mae digwyddiadau fel y rhain yn bwysig ar gyfer lledaenu’r datblygiadau technoleg amaeth diweddaraf ac i eirioli’r manteision hynny ar gyfer proffidioldeb ffermydd a’r amgylchedd ehangach.”
Ychwanegodd Martin Jardine, Cyfarwyddwr Bwyd Amaeth yng Ngrŵp Llandrillo Menai: “Roedd Coleg Glynllifon yn falch iawn o groesawu rhanddeiliaid i weld y datblygiadau arloesol a thechnolegol sy’n cael eu treialu ar y campws.
“Mae Coleg Glynllifon wedi cryfhau ei allu i ddarparu cymorth i’r sector bwyd-amaeth ac mae mewn sefyllfa dda i drosglwyddo gwybodaeth i bartneriaid a rhanddeiliaid y diwydiant.
“Wrth edrych ymlaen, bydd Coleg Glynllifon yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno sgiliau a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y sector. Mae llawer o ddatblygiadau cyffrous ar y gweill a fydd yn cefnogi’r sector i arallgyfeirio, mabwysiadu technolegau newydd, cynyddu cynhyrchiant a gwella cynaliadwyedd.”
Campws diwydiannau'r tir, sy'n cynnwys cyfleusterau preswyl, yw Glynllifon. Saif ar Ystâd Glynllifon ger Caernarfon. Mae fferm Glynllifon yn 400 hectar, ac yn amgylchedd gwych ar gyfer astudio rheolaeth cefn gwlad ac amaethyddiaeth. I ddysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael, cliciwch yma.