Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai'n ennill 34 o fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru
Enillodd dysgwyr a phrentisiaid Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Llandrillo a Busnes@LlandrilloMenai 10 medal aur, yn cynnwys tair gwobr Gorau yn y Rhanbarth
Enillodd myfyrwyr a phrentisiaid Grŵp Llandrillo Menai 34 o fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni - gan gynnwys 10 medal aur.
Ymhlith enillwyr y medalau roedd tri 'Gorau yn y Rhanbarth' - sy'n golygu mai nhw gafodd y sgôr uchaf ar draws yr holl gystadlaethau a gynhaliwyd yng Ngogledd Cymru.
Enillodd Faith Robinson, myfyrwraig yng Ngholeg Menai, y teitl ‘Gorau yn y Rhanbarth’ a medal arian mewn Gofal Plant, tra roedd Bethan Griffiths ac Elliot Cropper, dysgwyr o Goleg Meirion-Dwyfor yn rhannu’r clod yn y cystadlaethau Sgiliau Cynhwysol ar ôl dod yn gydradd gyntaf yng nghategori'r Gwasanaeth Bwyty.
Cipiodd tîm Busnes@LlandrilloMenai sef Olivia Hennessey, Samantha Johnson a Catrin Jones, fedal aur mewn Cyfrifeg, a myfyrwyr Coleg Llandrillo, Ollie Clarke a Daniel Cunnah, fuddugoliaeth yng nghategori Ynni Adnewyddadwy.
Enillwyr eraill y medalau aur oedd Milena Nycz (Coleg Menai, Dylunio Graffeg), Guto Jones (Coleg Meirion-Dwyfor, Sgiliau Cynhwysol: Sgiliau Bywyd), a Sara Griffith (Coleg Meirion-Dwyfor, Sgiliau Cynhwysol: Gofal Plant).
Enillodd myfyrwyr a phrentisiaid y Grŵp chwe medal arian ac 18 medal efydd hefyd, a chafodd 35 o ddysgwyr ‘Gymeradwyaeth Uchel’ (gweler y rhestr lawn isod).
Cyflwynwyd eu medalau iddyn nhw mewn seremonïau ar gampysau Llangefni a'r Rhyl nos Iau. Bydd y dysgwyr a enillodd fedal yn y categorïau Sgiliau Cynhwysol yn eu derbyn yng Nglynllifon ddydd Llun, Mawrth 17.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnig cyfle i gystadleuwyr ddatblygu eu sgiliau i safon uchel ar draws dros 50 o ddisgyblaethau wrth iddynt frwydro i fod y gorau yn y wlad.
Cynhelir cystadlaethau mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys busnes, adeiladu, digidol, peirianneg, iechyd a gofal cymdeithasol, lletygarwch a mwy.
Roedd llawer o ddysgwyr yn cystadlu ar dir cyfarwydd, gyda Grŵp Llandrillo Menai yn cynnal 23 o ddisgyblaethau ar draws ei gampysau a lleoliadau eraill eleni - y nifer fwyaf erioed i gael eu cynnal gan un grŵp coleg.
Bu eraill yn cystadlu mewn lleoliadau ledled y wlad gan gynnwys Coleg Cambria, Coleg Caerdydd a’r Fro, ac NPTC yn y Drenewydd.
Dywedodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Dywedodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:
“Mae’r dysgwyr wedi arddangos eu sgiliau ar y lefel uchaf ac rydyn ni’n hynod o falch ohonynt. Mae'n wych gweld cynifer ohonyn nhw'n ennill medalau ac yn cael cymeradwyaeth am eu gwaith caled.
“Mae llwyddiant ein dysgwyr yn dysteb i'w hymroddiad a'u penderfyniad, yn ogystal ag i'w tiwtoriaid a'u haseswyr sydd wedi gweithio mor galed i'w helpu i gyrraedd y brig. Rydw i’n dymuno'r gorau i'r dysgwyr yn y dyfodol.
“Rydw i'n falch iawn hefyd bod mwy nag erioed o'r blaen o gystadlaethau wedi cael eu cynnal ar safleoedd y Grŵp. Mae hyn yn tanlinellu ein hymrwymiad cadarn i ddatblygu ac ysgogi sgiliau gweithlu'r dyfodol yng Nghymru.”
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei redeg gan Ysbrydoli Sgiliau Cymru - rhwydwaith o golegau, hyfforddwyr dysgu yn y gweithle a sefydliadau dan arweiniad cyflogwr.
Canlyniadau Grŵp Llandrillo Menai, Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2025:
AUR
Cyfrifeg: Olivia Hennessey
Cyfrifeg: Samantha Johnson
Cyfrifeg: Catrin Jones
Dylunio Graffig: Milena Nycz
Sgiliau Cynhwysol - Sgiliau Bywyd: Guto Jones
Sgiliau Cynhwysol - Gwasanaeth Bwytai: Bethan Griffiths (Gorau yn y Rhanbarth)
Sgiliau Cynhwysol - Gwasanaeth Bwytai: Elliot Cropper (Gorau yn y Rhanbarth)
Sgiliau Cynhwysol - Gofal Plant: Sara Griffith
Ynni Adnewyddadwy: Ollie Clarke
Ynni Adnewyddadwy: Daniel Cunnah
ARIAN
Gofal Plant: Faith Robinson (Gorau yn y Rhanbarth)
Sgiliau Cynhwysol - TG: Harri Parry
Plastro: Ruby Hillary
Gwaith Plymiwr a Gwresogi: Tomi Evans
Ynni Adnewyddadwy: Zack Arnold
Ynni Adnewyddadwy: Callum Hickman
EFYDD
Gweithgynhyrchu Ychwanegion: Oliver Weldon
Awtomatiaeth: Nathaniel Pugh
Awtomatiaeth: Marcie Jones
Cynhyrchu Cyfryngau Digidol: Matthew Owen
Trin gwallt: Leah Matthews
Technoleg Cerbydau Trwm: Mackenzie Diggons
Roboteg Diwydiannol: Yaris Pritchard
Roboteg Diwydiannol: Megan Roberts
CAD Peirianneg Fecanyddol: Connie Whitfield
Y Celfyddydau Perfformio: Ryan Hughes
Y Celfyddydau Perfformio: Ffion Jones
Y Celfyddydau Perfformio: Luke Lewis
Y Celfyddydau Perfformio: Nicole Robb
Y Celfyddydau Perfformio: Mia Roberts
Y Celfyddydau Perfformio: Nataliia Tymoshevska-Ziuzko
Y Celfyddydau Perfformio: Anna Walker
Plastro: Ryan Jones
Atgyweirio Corff Cerbyd: Tomos Kyffin Jones
CANMOLIAETH UCHEL
Celf Gemau Digidol 3D: Ashley Mawson
Celf Gemau Digidol 3D: Ivan Wilkinson
Gweithgynhyrchu Ychwanegion: Kenneth Christie
Gweithgynhyrchu Ychwanegion: Ewan Harper
Gweithgynhyrchu Ychwanegion: Leo Jones-Roberts
Gosod Brics: Ethan Roberts
Gwaith Coed: Daniel Young
Trin Gwallt: Kayleigh Blears
Trin Gwallt: Stephanie Hughes
Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Jason Griffiths
Sgiliau Cynhwysol - Cynorthwyydd Ffitrwydd Lauren Roberts
Sgiliau Cynhwysol - Garddwriaeth Dylan Jacobs
Sgiliau Cynhwysol - Garddwriaeth Mia Marinkovic
Sgiliau Cynhwysol - Garddwriaeth Scott Whitehead
Sgiliau Cynhwysol - Garddwriaeth Ifan Williams
Sgiliau Cynhwysol - Garddwriaeth Owi Williams
Sgiliau Cynhwysol - Sgiliau Bywyd Arlind Imeri
Sgiliau Cynhwysol - Sgiliau Bywyd Ella Jones
Sgiliau Cynhwysol - Y Cyfryngau Sabian James
Sgiliau Cynhwysol - Gwasanaeth Bwytai Llinos Jones
Electroneg Ddiwydiannol: Nicholas Flanagan
Technoleg Fodurol Cerbydau Ysgafn: Tyler Edwards
Technoleg Fodurol Cerbydau Ysgafn : Guilherme Guedes
Technoleg Fodurol Cerbydau Ysgafn : Herbi Jones
CAD Peirianneg Fecanyddol: Corey Jones
Hyfforddwr Personol: Huw Owen
Hyfforddwr Personol: Begw Roberts