Rheolwr o'r Grŵp yn Falch o Annog Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar Brentisiaethau yn y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Rheolwr Prentisiaethau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw Amy Thomas ac yn ddiweddar fe dderbyniodd wobr arbennig gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ei chyfraniad i'r Gymraeg.

Doedd Amy ddim yn siarad gair o Gymraeg pan symudodd hi i Ynys Môn yn 11 oed ac roedd hi'n cael trafferth i ddeall ei gwersi. Ond diolch i gefnogaeth Ysgol Uwchradd Bodedern a chwe wythnos ar gwrs Trochi, llwyddodd i ddysgu'r iaith a gadawodd yr ysgol gyda TGAU gradd A* mewn Cymraeg.

Ymunodd â thîm rheoli Busnes@LlandrilloMenai yn 2021 ac ers hynny mae hi wedi arwain cynlluniau sy’n cefnogi staff yr adran i gyflwyno Prentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ei gwaith i alluogi prentisiaid i gwblhau’r cyfan neu rannau o’u prentisiaethau yn y Gymraeg wedi golygu ei bod wedi cynyddu nifer y prentisiaid o 56 yn 2023 i 109 yn 2024.

Esboniodd Amy:

“Mae gwneud yn siŵr bod fy nhîm o aseswyr a phrentisiaid yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddysgu yn y Gymraeg yn flaenoriaeth bersonol ac yn ganolog i fy rôl. Dechreuais fy ngyrfa fel gweithiwr gofal ac rydw i wedi gweld â'm llygaid fy hun pa mor bwysig ydi hi fod pobl sy'n derbyn gofal yn gallu sgwrsio yn eu mamiaith, yn enwedig wrth ddarparu gwasanaethau fel gofal dementia.

“Mae gennym ni'n awr lysgennad dwyieithog yn gweithio yn yr adran i gefnogi cydweithwyr ac mae bob dydd Mercher yn 'Ddydd Mercher Cymraeg' lle rydyn ni'n rhannu adnoddau ac yn rhoi sylw i'r Gymraeg a'i diwylliant.

“Hyd yma rydyn ni wedi gwneud dau gam cyntaf Rhaglen ARFer Prifysgol Bangor a byddwn yn cychwyn ar gam newydd yn ystod yr wythnosau nesaf. Bwriad ARFer ydi newid arferion iaith i alluogi cydweithwyr sy’n gallu siarad Cymraeg (ond sydd wedi sefydlu'r arfer o ddefnyddio’r Saesneg) i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith.”

Mae ymrwymiad Amy a’i thîm yn sicr wedi talu ar ei ganfed a dyna pam y derbyniodd hi'r wobr Cyfraniad Arbennig. Rhoddir y wobr hon i aelod o dîm rheoli sy'n dylanwadu ar ddatblygiad y ddarpariaeth Gymraeg yn eu sefydliad.

Dywedodd Rhianwen Edward, Cyfarwyddwr Masnachol a Dysgu Seiliedig ar Waith Busnes@LlandrilloMenai: ⁠

“Mae wedi bod yn wych gweld ymrwymiad Amy a’i thîm i hyrwyddo a datblygu dwyieithrwydd mewn Prentisiaethau yn cael ei gydnabod a’i ddathlu. Rydyn ni'n eithriadol o falch o’n gweithlu talentog.”

Mae Gwobrau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydnabod cyfraniad myfyrwyr, prentisiaid a darlithwyr o'r sector addysg bellach ac uwch a'r sector prentisiaethau i addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

I gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau ewch i www.gllm.ac.uk/prentisiaethau

Pagination