Datgloi Potensial Arweinwyr gyda Phrentisiaethau Rheoli
Cyflogwyr gogledd Cymru yn buddsoddi mewn prentisiaethau rheoli a hyfforddiant seiliedig ar waith i ddatblygu eu gweithlu.
Drwy bartneriaethau gyda Busnes@LlandrilloMenai, mae sefydliadau fel y GIG, cynghorau a chleientiaid y sector preifat fel Affinity Flying Services, Rhug Estate a Celtest Co Ltd yn datblygu sgiliau arwain eu timau, ynghyd â'u gwasanaeth i gwsmeriaid, marchnata digidol, a chyfryngau cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod eu busnesau yn ffynnu.
Un stori lwyddiant o’r fath yw un Charles Conway, Rheolwr Sifftiau’r GIG yn Llinell Gymorth CALL - Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru. Er gwaethaf profiad sylweddol o reoli timau, roedd Charles yn ymwybodol ei fod angen hyfforddiant ffurfiol ac felly cofrestrodd ar Brentisiaeth Lefel 3 ILM mewn Rheolaeth.
“Roeddwn i’n meddwl i ddechrau y byddai’r cwrs yn ymwneud â'r roeddwn i’n ei wybod yn barod — ond ni allai hynny fod ymhellach o’r gwir! Mae'r brentisiaeth yn daith o hunan-ddarganfod. Fe helpodd fi i fyfyrio ar fy arddull arwain, deall sut mae gwahanol ddulliau yn effeithio ar fy nhîm, ac alinio fy ngwaith gyda gwerthoedd y sefydliad.”
Drwy’r brentisiaeth, cafodd Charles fewnwelediadau newydd o ran arweinyddiaeth yn ogystal â dysgu gan reolwyr eraill o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Rŵan, mae'n paratoi i symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 4 ILM mewn Rheolaeth.
“Mae’n ymrwymiad amser, ond mae’n hollol werth chweil. Os ydych chi'n camu i faes rheoli, neu hyd yn oed os oes gennych chi flynyddoedd o brofiad, byddwn yn argymell prentisiaeth yn fawr. Byddwch yn ennill sgiliau gwerthfawr, yn dysgu gan eraill, ac yn tyfu fel arweinydd.”
Dwedodd Sue Holdsworth, Rheolwr Maes Rhaglen – Busnes a Digidol.
“Nid mater o uwchsgilio staff yn unig yw buddsoddi mewn prentisiaethau – mae’n ymwneud â diogelu busnesau at y dyfodol. Drwy ddarparu hyfforddiant strwythuredig, mae cyflogwyr nid yn unig yn datblygu arweinwyr hyderus, galluog ond hefyd yn gwella cyfraddau cadw staff ac yn creu llwybrau clir ar gyfer dilyniant gyrfa. Rydyn ni wedi gweld yn uniongyrchol sut mae prentisiaethau rheoli yn helpu sefydliadau i feithrin talent, cryfhau timau, a chynllunio ar gyfer y dyfodol.”
Ochr yn ochr â phrentisiaethau rheoli, mae hyfforddiant seiliedig ar waith ar gael mewn meysydd busnes allweddol fel gwasanaeth i gwsmeriaid, marchnata digidol, a chyfryngau cymdeithasol, er mwyn helpu gweithwyr i fagu hyder ac arbenigedd wrth gymhwyso sgiliau newydd yn uniongyrchol i'r gweithle.
Am ragor o wybodaeth am sut y gall prentisiaethau rheoli a hyfforddiant seiliedig ar waith gefnogi eich gyrfa neu fusnes, cysylltwch â Busnes@LlandrilloMenai heddiw.