Robert Williams Plumbing and Heating

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 2014, a rydan ni’n gweithio ar hyd a lled Pen Llŷn a thu hwnt. Mae’n gwaith ni’n cynnwys ffitio ystafelloedd ymolchi mewn tai newydd a helpu cwsmeriaid trwy osod systemau sy’n gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.

Enw: Robert Williams

Cwmni: Robert Williams Plumbing and Heating

Proffil y Cwmni: Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 2014, a rydan ni’n gweithio ar hyd a lled Pen Llŷn a thu hwnt. Mae’n gwaith ni’n cynnwys ffitio ystafelloedd ymolchi mewn tai newydd a helpu cwsmeriaid trwy osod systemau sy’n gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.

Ydi anghenion eich cwsmeriaid yn newid?
Mae llawer o ddatblygiadau wedi bod mewn ynni adnewyddadwy mewn blynyddoedd diweddar ond mae dryswch ymhlith cwsmeriaid am y dechnoleg newydd a beth sydd orau yn eu cartrefi wrth geisio gwella effeithlonrwydd ac arbed arian. Mae gofyn i ni felly fod wedi ein hyfforddi yn iawn i ateb eu cwestiynau a’u gofynion nhw. Rydw i eisiau i bobl gael hyder yn ein gwaith ac ymddiried yn y cwmni.

Pam wnaethoch chi benderfynu cofrestru gyda Sero Net Gwynedd?
Ar hyn o bryd, rydan ni yn ceisio am waith ar raddfa fwy nag ydan ni wedi ei wneud yn y gorffennol. Mae Sero Net Gwynedd yn gyfle i’n paratoi ni i wneud y gwaith yma - ac mae’r ffaith bod y cyrsiau am ddim hefyd o help i ni fel busnes bach. Mae ein prentisiaid yn gysylltiad rhyngom ni â’r coleg ac mi ydan ni yn awyddus i gryfhau’r cyswllt hwnnw.

Pa gyrsiau ydych chi wedi eu dilyn?

  • Tendro
  • Pympiau gwres awyr
  • Digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’

Ydi’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu trwy’r prosiect wedi bod yn ddefnyddiol i chi?
Mae’r cwrs tendro wedi bod yn gymorth wrth i ni gynyddu graddfa ein busnes a cheisio tyfu a datblygu. Mae hyfforddiant yn rhan hanfodol o wella ein hunain ac rydw i’n mwynhau cymryd pob cyfle fel hyn ddaw fy ffordd.