Academi Ddigidol Werdd - Astudiaethau Achos
Mae Busnes@LlandrilloMenai wedi bod yn gweithio gyda busnesau ar draws Gwynedd a Môn i leihau eu ôl-troed carbon trwy’r Academi Ddigidol Werdd.
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae Busnes@LlandrilloMenai wedi bod yn gweithio gyda busnesau ar draws siroedd Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych a sir Y Fflint i leihau eu ôl-troed carbon trwy’r Academi Ddigidol Werdd. Mae’r rhaglen sydd wedi ei ariannu yn llawn, yn darparu cymorth a chyngor arbenigol i helpu busnesau micro, bach a ganolig addasu ar gyfer dyfodol sero net.

Outdoor Alternative
Wedi'i sefydlu yn 1985 mae Outdoor Alternative yn darparu llety, gwersylla a gweithgareddau i bobl sy'n caru bod allan yn yr awyr agored.

Brighter Futures
Mae Dyfodol Disglair yn elusen a sefydlwyd yn 2018 mewn ymateb i'r galw cynyddol ar sefydliadau gwirfoddol i gydweithio i leihau unigedd cymdeithasol, unigrwydd a thlodi.

Bryn Elltyd Eco Guesthouse
Agorodd John a Celia Whitehead y gwesty eco hwn yn 2007 gyda’r weledigaeth o gynnig llety 'gwyrdd' yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.

Celtic Financial Planning
Wedi’u sefydlu ym mis Tachwedd 2018, mae Celtic Financial Planning yn gynllunwyr ariannol annibynnol, sydd wedi ennill llu o wobrau.
Cronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Trwy Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae Busnes@LlandrilloMenai wedi bod yn gweithio gyda busnesau ar draws Gwynedd a Môn i leihau eu ôl-troed carbon trwy’r Academi Ddigidol Werdd. Mae’r rhaglen sydd wedi ei ariannu yn llawn, yn darparu cymorth a chyngor arbenigol i helpu busnesau bach addasu ar gyfer dyfodol sero net.

Mona Lifting
Y nod i Mona Lifting yw parhau’n hyfyw yn fasnachol tra’n lleihau allyriadau carbon ac effeithiau amgylcheddol.

MÔN AR LWY
Mae Môn ar Lwy, cwmni hufen iâ o Fodorgan, wedi bod yn gweithio gyda Busnes@LlandrilloMenai i fapio ei ôl troed carbon drwy’r Academi Ddigidol Werdd.

Tyddyn Isaf Camping & Caravan Park
Mae Tyddyn Isaf wedi ei leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn edrych dros bae Lligwy ar arfordir ddwyreiniol Ynys Môn, ym mhentref Dulas. Mae pobl wedi bod yn gwersylla ar y safle ers 1946, ac mae’r busnes teuluol wedi ymrwymo ers tro i wneud popeth o fewn ei allu i ddiogelu’r amgylchedd ac adnoddau’r ddaear.

Rheilffordd Talyllyn
Mae’r tîm yn angerddol am amddiffyn yr amgylchedd yn ogystal â buddsoddi yn y gymuned leol, felly roedd y cyfle i gymryd rhan yn yr Academi Ddigidol Werdd yn un rhy dda i’w golli.

Becws Islyn
Mae Becws Islyn wedi ei leoli ym mhentref Aberdaron, Pen Llŷn. Wedi ei sefydlu yn y 90au, mae’r busnes wedi ehangu’n ddiweddar gan agor siopau yn Nefyn a Phwllheli, yn ogystal â chynnig gwasanaeth cludo cynnyrch i gwsmeriaid.

Caban Brynrefail
Mae Caban yn fenter unigryw wedi ei leoli ym mhentref Brynrefail ger Caernarfon.