Becws Islyn
Mae Becws Islyn wedi ei leoli ym mhentref Aberdaron, Pen Llŷn. Wedi ei sefydlu yn y 90au, mae’r busnes wedi ehangu’n ddiweddar gan agor siopau yn Nefyn a Phwllheli, yn ogystal â chynnig gwasanaeth cludo cynnyrch i gwsmeriaid. Mae’r tîm yn angerddol dros ddod â budd i’r ardal leol a dros leihau ei effaith ar yr amgylchedd. Maen nhw eisoes wedi cymryd camau sylweddol i leihau allyriadau carbon, gan gynnwys newid i EVs ar gyfer dosbarthu cynnyrch a defnyddio tariff trydan sy’n gwarantu ffynhonnell di-garbon. Roedd cofrestru ar gyfer yr Academi Ddigidol Werdd yn gyfle i'r cwmni edrych ar beth sy’n bosib y tu hwnt i hyn.
Yr her - CYRRAEDD SERO NET erbyn 2030
Mae Becws Islyn yn gweithio’n galed i sicrhau ei fod yn gyfeillgar i’r amgylchedd, fel yr eglura’r perchennog Geraint Jones: “Rydym yn ymfalchïo yn y ffordd rydym yn gweithredu er budd y gymuned ac i leihau ein heffaith ar yr hinsawdd. Rydym eisoes wedi newid i gerbydau trydan a gosod pwyntiau gwefru ar y safle. Ond roedden ni eisiau gwneud mwy, felly roedd cymryd rhan yn y cynllun hwn yn gwneud synnwyr i ni.” Mae adroddiad Academi Ddigidol Werdd Becws Islyn yn dangos bod bron i 80% o allyriadau carbon y cwmni yn deillio o nwyddau wedi eu prynu gan eu cyflenwyr. Mae’r busnes hefyd yn dibynnu ar offer sy’n defnyddio llawer o ynni ac ar hyn o bryd nid yw’n cynhyrchu nac yn storio trydan adnewyddadwy ar y safle. Yr her felly fydd ymdrin â’r materion yma i helpu’r busnes gyrraedd sero net erbyn 2030.
Beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud - MYND I’R AFAEL AG ALLYRIADAU
Mae’r busnes eisoes wedi cychwyn ar y daith, gyda chynlluniau ar gyfer economi gylchol gyflawn trwy’r Caffi Eco - o ddefnyddio cwpanau a llestri y mae modd eu compostio, i gynhyrchu blawd. Mae camau pellach yn cael eu hargymell i ategu’r cynlluniau hyn, gan gynnwys cynnal adolygiad o offer a pheiriannau er mwyn sicrhau gwell effeithlonrwydd a darparu hyfforddiant i staff i godi ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd. Yn yr hir dymor, maer adroddiad yn awgrymu adolygu’r gadwyn gyflenwi er mwyn defnyddio mwy o gynnyrch lleol. Mae’r ymgynghorwyr hefyd yn cynnig compostio fel opsiwn ar gyfer rheoli gwastraff ynghyd â sicrhau bod gwefrwyr EVs ar gael yn fasnachol i’r cyhoedd ar y safle fel ffrwd incwm ychwanegol.
Y canlyniad - LLWYBR I LEIHAU CARBON
Mae Geraint yn croesawu’r adroddiad gan ddweud bod ymgynghorwyr yr Academi Ddigidol Werdd wedi helpu i flaenoriaethu ar gyfer y dyfodol. “Rydym wedi dysgu llawer trwy gymryd rhan yn y cynllun yma, ac mae’n hymgynghorydd lleol wedi ein helpu ni ddeall sut i gynllunio’r busnes er lles yr amgylchedd a’r cwmni. Mae cael arbenigwyr i edrych ar yr hyn oedd ar waith gennym hefyd wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth gydnabod y gwaith rydyn ni wedi ei wneud yn barod i leihau ein hallyriadau.”
Eisiau gwybod mwy neu gymryd rhan yn y prosiect?
Cysylltwch digidol.gwyrdd@gllm.ac.uk | 08445 460 460