Brighter Futures
Mae Dyfodol Disglair yn elusen a sefydlwyd yn 2018 mewn ymateb i'r galw cynyddol ar sefydliadau gwirfoddol i gydweithio i leihau unigedd cymdeithasol, unigrwydd a thlodi.
Y Busnes:
Dyfodol Disglair, Y Rhyl
Mae Dyfodol Disglair yn elusen a sefydlwyd yn 2018 mewn ymateb i'r galw cynyddol ar sefydliadau gwirfoddol i gydweithio i leihau unigedd cymdeithasol, unigrwydd a thlodi. Mae'n cael ei redeg gan grŵp o ymddiriedolwyr ac wedi'i leoli mewn hen dafarn yn y Rhyl. Mae’r safle ar agor chwe diwrnod yr wythnos ac yn ganolbwynt ar gyfer gwahanol grwpiau a gweithgareddau cymunedol.
Taith yr Academi Ddigidol Werdd
Trwy gymryd rhan gyda'r Academi Ddigidol Werdd, nod Dyfodol Disglair oedd edrych ar gwahnol ffyrdd o gyrraedd sero net, arbed arian a lleihau eu defnydd o ynni. Roeddent hefyd yn awyddus i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd yn ogystal â chynyddu cyswllt gyda chwsmeriaid trwy'r cyfryngau cymdeithasol. Roedden nhw wedi ymrwymo i wneud mwy o ddefnydd o bŵer solar i gynhyrchu trydan ar gyfer goleuo a rhedeg yr adeilad yn gyffredinol, fodd bynnag, un o'u heriau oedd capasiti batris. Drwy'r rhaglen mae'r tîm yn gobeithio gosod paneli solar a batris ychwanegol i ymestyn eu gallu i gynhyrchu trydan ar y safle. Maen nhw hefyd wedi symud o nwy ar gyfer gwresogi i bwmp gwres ffynhonnell aer, tapiau dŵr a thoiledau llif isel ynghyd â system adfer gwres, insiwleiddio rhag drafft ac wedi gosod drysau newydd.
Beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud
Drwy'r rhaglen mae'r tîm yn gobeithio gosod paneli solar a batris ychwanegol i ymestyn eu gallu i gynhyrchu trydan ar y safle. Maen nhw hefyd wedi symud o nwy ar gyfer gwresogi i bwmp gwres ffynhonnell aer, tapiau dŵr a thoiledau llif isel ynghyd â system adfer gwres, insiwleiddio rhag drafft ac wedi gosod drysau newydd.
Gyda chefnogaeth Academi Ddigidol Werdd, mae Dyfodol Disglair eisoes wedi gwneud newidiadau sylweddol wrth iddynt anelu at leihau carbon a chyrraedd sero net. Mae'r camau nesaf ar eu cyfer yn cynnwys inswleiddio waliau mewnol ac ymchwilio i dechnolegau arbed carbon a moderneiddio eu hoffer TG.
Y Canlyniad
Erbyn 2026, y nod yw defnyddio dŵr glaw ar gyfer toiledau a chyflwyno electrolyswyr arbed tanwydd i faniau diesel. Mae cynlluniau tymor hir yn cynnwys newid i fflyd gerbydau hybrid ac EV fel bod Dyfydol Disglair yn sefydliad cwbl ddi-danwydd ffosil erbyn 2050.