Gwesty eco Bryn Elltyd
Agorodd John a Celia Whitehead y gwesty eco hwn yn 2007 gyda’r weledigaeth o gynnig llety 'gwyrdd' yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Y Busnes:
Bryn Elltyd, Tanygrisiau, Gwynedd
Agorodd John a Celia Whitehead y gwesty eco hwn yn 2007 gyda’r weledigaeth o gynnig llety 'gwyrdd' yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Fel hen adeilad gwenithfaen sy’n dyddio o 1833, mae sicrhau ei fod yn ynni effeithlon wedi bod yn her, ond dyma fusnes twristiaeth gwesty carbon negyddol cyntaf yn y DU sydd wedi sicrhau achrediad aur Twristiaeth Gwyrdd ers dros 10 mlynedd.
Yr her
Mae cynaliadwyedd wastad wedi bod yn sbardun i'r busnes diolch i egwyddor John a Cecilia y dylem ‘droedio'n ysgafn ar y blaned’ a'i gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Agorodd Bryn Elltyd gydag ymrwymiad i fynd y tu hwnt i sero net. Mae John yn credu bod yn rhaid i chi wneud i bethau ddigwydd i lwyddo ac ers croesawu'r gwesteion cyntaf mae wedi arwain y ffordd mewn twristiaeth gynaliadwy. Maen nhw wedi ychwanegu insiwleiddio newydd i’r adeilad, paneli solar ac mae ganddyn nhw foeler sy'n rhedeg ar ddeunydd gwastraff.
Pan lansiwyd yr Academi Ddigidol Werdd, gwelodd John gyfle i roi hwb i'r busnes ar ei daith i gynaliadwyedd.
Beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud?
Roedd cymryd rhan yn yr Academi Ddigidol Werdd yn gam naturiol i Bryn Elltyd ac roedd yn rhan o'r darlun ehangach i arloesi a gwella cymwysterau gwyrdd. Fe wnaeth archwiliad carbon helpu'r busnes i adnabod meysydd i'w gwella ac mae cyllid wedi sicrhau eu bod wedi gallu rhoi newidiadau ar waith.
Y canlyniad
Mae Cymru wedi cael ei henwi'n un o’r gwledydd mwyaf cynaliadwy yn y byd i ymweld â hi ac mae busnes Bryn Elltyd eisoes wedi cyflawni sero net. Ond mae'r perchnogion yn credu bod mwy y gallwn ei wneud a bod angen mwy o gefnogaeth i fusnesau fabwysiadu arferion gwyrdd.