Celtic Financial Planning
Wedi’u sefydlu ym mis Tachwedd 2018, mae Celtic Financial Planning yn gynllunwyr ariannol annibynnol, sydd wedi ennill llu o wobrau.
Y Busnes:
Celtic Financial Planning, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Wedi’u sefydlu ym mis Tachwedd 2018, mae Celtic Financial Planning yn gynllunwyr ariannol annibynnol, sydd wedi ennill llu o wobrau. Maen nhw wedi ymrwymo i’w cymuned ac yn cymryd eu cyfrifoldebau cymdeithasol ac amgylcheddol o ddifri.
Yr her
Cofrestrodd y cwmni â’r Academi Ddigidol Werdd am eu bod yn awyddus i wella’u cynaliadwyedd. Roedden nhw’n teimlo bod y rhaglen yn cyd-fynd ag amcanion amgylcheddol gyfeillgar y busnes.
Un o’r prif heriau roeddent yn ei hwynebu oedd gwybod sut i fesur ac adrodd ar eu heffaith amgylcheddol.
Beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud
Trwy ymuno â’r Academi Ddigidol Werdd roedden nhw’n hyderus y gallent gael mynediad at y gefnogaeth gywir, a oedd yn cynnwys mentora, yn ogystal ag adrodd annibynnol.
Diolch i’r Academi Ddigidol Werdd, roedd y busnes yn gallu adolygu eu cynllun pum mlynedd i leihau carbon. Roeddent hefyd yn cael mynediad at arian sydd wedi golygu eu bod mewn sefyllfa i fynd â’u cynlluniau gam ymhellach, gan gynnwys gosod gwefryddion EV.
Y canlyniad
Bellach, mae gan Celtic Financial gynllun manwl yn ei le, diolch i’r cyngor a’r gefnogaeth a gawsant drwy’r rhaglen. Maen nhw’n edrych ymlaen at y dyfodol wrth iddynt barhau ar eu taith tuag at sero net. Dywedodd Robert Lewis, Cyfarwyddwr Celtic Financial Planning:“Mae’r rhaglen wedi bod o fudd mawr i ni fel busnes. Yn aml, nid ydych chi’n gwybod yr hyn nad ydych chi’n gwybod, felly mae cael arbenigwr i mewn i werthuso’ch busnes a darparu cyngor yn amhrisiadwy