Conwy Kombucha Limited

Mae Conwy Kombucha Limited, sy’n cynhyrchu “Blightly Booch Kombucha” yn fusnes teuluol wedi ei sefydlu ers 2018.

Cefndir

Mae Conwy Kombucha Limited yn arbenigo mewn creu kombucha organig. Gan gydnabod y galw cynyddol gan gwsmeriaid am gynnyrch eco-gyfeillgar a phwysigrwydd rhedeg busnes cynaliadwy, roedd y cwmni’n awyddus i leihau ei ôl troed carbon. Er mwyn gwneud hyn, fe wnaethant ymuno â’r Academi Ddigidol Werdd, cynllun sy’n cael ei redeg gan Busnes@LlandrilloMenai, a’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae’r cynllun wedi’i gynllunio i helpu busnesau i fabwysiadu technoleg digidol ac i roi strategaethau lleihau carbon ar waith.

Perchennog Conwy Kombucha Limited

Ymgysylltu â’r Academi Ddigidol Werdd

Drwy’r Academi Ddigidol Werdd, cafodd Conwy Kombucha gefnogaeth wedi’i ariannu’n llawn, gan gynnwys:

  • Mentora Arbenigol – Gweithiodd mentor yn agos gyda’r cwmni i werthuso gweithgareddau cyfredol a gwneud archwiliad cynhwysfawr o’i allyriadau carbon cyn mynd ati i greu cynllun ar sut i gyrraedd sero net.
  • Cynllun Gweithredu – Yn seiliedig ar ganlyniadau’r archwiliad, datblygodd y mentor gynllun wedi’i deilwra yn amlinellu camau ymarferol i leihau allyriadau carbon a gwella capasiti digidol o fewn y busnes.
  • Cyfleoedd Ariannu a Hyfforddi – Helpodd y rhaglen Conwy Kombucha hefyd i adnabod a sicrhau cyllid a hyfforddiant i ddefnyddio technoleg er mwyn lleihau carbon yn y dyfodol.

Effaith a Budd

O ganlyniad, llwyddodd Conwy Kombucha i gyrraedd sawl amcan allweddol:

  • Cynyddu Cynaliadwyedd a Chynhyrchiant – Gweithredu cynlluniau ar gyfer prosesau cynhyrchu ynni-effeithlon, prynu cynhwysion cynaliadwy a gwella dosbarthu yn y dyfodol trwy ddefnyddio cerbydau gwyrdd a fydd yn arwain at ostyngiad sylweddol yn ôl troed carbon y cwmni wrth iddo dyfu.
  • Integreiddio Digidol – Mabwysiadu offer digidol i wella effeithlonrwydd gweithredu dydd i ddydd, o reoli rhestr eiddo i ymgysylltu â chwsmeriaid.
  • Cryfhau Safle yn y Farchnad – Mae gwella cymwysterau gwyrdd wedi taro nodyn gyda chyflenwyr a chwsmeriaid eco-ymwybodol, a’r gobaith yw y bydd hynny yn arwain at gyfran fwy o’r farchnad a theyrngarwch cwsmeriaid.