Outdoor Alternative

Wedi'i sefydlu yn 1985 mae Outdoor Alternative yn darparu llety, gwersylla a gweithgareddau i bobl sy'n caru bod allan yn yr awyr agored.

Y Busnes:

Outdoor Alternative, Rhoscolyn, Ynys Môn

Wedi'i sefydlu yn 1985 mae Outdoor Alternative yn darparu llety, gwersylla a gweithgareddau i bobl sy'n caru bod allan yn yr awyr agored. Wedi'i leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar arfordir Ynys Môn, mae'r busnes wedi derbyn a chynnal Gwobr Aur Twristiaeth Gwyrdd ers 2013. Mae'n cymryd ei gyfrifoldeb tuag at hinsawdd a chynaliadwyedd o ddifri ac mae'n aelod o Hwb Hinsawdd SME.

Cenhadaeth Outdoor Alternative yw "Adeiladu busnes amgylcheddol, cymdeithasol ac ariannol gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".

Cyfweliad GDA Outdoor Alternative

Taith Academi Ddigidol Werdd

Ymunodd y busnes â’r Academi Ddigidol Werdd yn 2022 i edrych ar sut i gyflymu cynnydd at sero net. Ers hynny, mae Outdoor Alternative wedi canolbwyntio ar leihau dibyniaeth ar LPG ar gyfer gwres a dŵr poeth. Mae defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf yn golygu y gall y system newydd fod yn hyblyg i gwrdd â lefel y galw yn dibynnu ar y tymor a nifer gwestion. Mae'r system sydd newydd ei gosod yn manteisio ar drydan ffotofoltäig solar wedi ei gynhyrchu ar y safle a dŵr poeth solar. Mae cynlluniau ar waith erbyn hyn i osod pympiau gwres ffynhonnell awyr yn lle boeleri LPG aneffeithlon.

Y camau nesaf

Ar ôl gwneud cynnydd sylweddol eisoes, mae’r tîm yn Outdoor Alternative wedi ymuno â'r Academi Ddigidol Werdd eto yn 2024. Drwy'r rhaglen gallent gael gafael ar gyllid a mentora arbenigol fydd yn help i arwain y cwmni teuluol wrth iddynt symud y busnes i gyfeiriad sero net.

“Mae’r gefnogaeth gan Academi Ddigidol Werdd a’n ymgynghorwyr yn Greener Edge wedi rhoi cynllun clir i ni ar gyfer datgarboneiddio ac wedi ein galluogi i flaenoriaethu buddsoddiad yn y llefydd cywir i helpu ni ar ein taith i sero net.”

"Mae yna gyswllt go iawn rhwng y camau rydyn ni'n eu cymryd ac awydd ein cwsmeriaid i’n gweld ni'n gwneud mwy a gwybod bod eu cawod ar ddiwedd y dydd yn dod o heulwen Rhoscolyn yn hytrach na llosgi LPG"

Chris Wright, Outdoor Alternative

Mae’r Academi Ddigidol Werdd yn brosiect Busnes@LlandrilloMenai wedi ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Gwefrydd EV yn GDA Outdoor Alternative
Plymiwr OA GDA Outdoor Alternative
Swits PV GDA Outdoor Alternative