Canllawiau i Fusnesau Cynaliadwy
Bwriad y Canllawiau i Fusnesau Cynaliadwy yw eich helpu i arbed arian trwy gynnig cyngor ynghylch sut y gall camau arbed ynni gynyddu effeithlonrwydd yn y cartref a'r gweithle, lleihau eich ôl troed carbon a gwella cynaliadwyedd. Cofrestrwch heddiw i dderbyn copi am ddim.
Os ydych yn meddwl dechrau busnes ac yn chwilio am ysbrydoliaeth neu'n awyddus i newid y ffordd rydych chi'n gweithredu, ein nod yw rhannu adnoddau a syniadau am sut i wneud eich busnes yn arloesol ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd y Canllawiau’n osgoi'r duedd i wyrddgalchu ac yn edrych ar gynaliadwyedd mewn ffordd ymarferol ac effeithiol.
Mae'r Canllawiau’n edrych ar feysydd pwysig fel
- Mesur a Rheoli eich Allyriadau
- Effeithlonrwydd Digidol
- Gwresogi, Goleuo, Offer, a Defnyddio'r Gegin
- Adeiladu Tîm Gwyrdd
Llenwch y ffurflen isod i gofrestru i gael eich ‘Canllawiau i Fusnesau Cynaliadwy’
Os ydych chi'n barod i wneud newidiadau, ymunwch â'r Academi Ddigidol Werdd. Gan weithio gyda mentor, gallwn eich helpu i werthuso eich sefyllfa bresennol, dadansoddi eich busnes, a datblygu cynllun i gael hyfforddiant a chyllid i'ch cefnogi i leihau eich ôl troed carbon. Cysylltwch â ni trwy'r dudalen Academi Digidol Werdd.