Academi Ddigidol Werdd

Ydych chi'n fusnes micro, bach neu ganolig wedi'i leoli yn siroedd Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych neu'r Fflint Hoffech chi fod yn fwy gwyrdd a lleihau eich ôl troed carbon?
Yna mae'r Academi Ddigidol Werdd yma i'ch helpu chi i wneud y newidiadau sydd eu hangen.

Mae'r Academi Ddigidol Werdd yma i helpu busnesau sy'n gweld gwerth mewn defnyddio technoleg ddigidol newydd, cyflymu effeithlonrwydd, lleihau allyriadau carbon a lleihau costau. Gan weithio gyda mentor, gallwn eich helpu i werthuso eich sefyllfa bresennol, dadansoddi eich busnes, a datblygu cynllun i gael hyfforddiant a chyllid i'ch cefnogi i leihau eich ôl troed carbon.


Logo Academi Digidol Gwyrdd
Gwefrydd EV yn GDA Outdoor Alternative

Pam ddylech chi ymuno â'r Academi Ddigidol Werdd?

⁠Bydd y prosiect yn gweithio gyda chi i fynd â'ch busnes ar daith arloesol a fydd yn eich helpu i:

  • Ennill mantais gystadleuol a rhoi hwb i'ch enw da fel busnes gwyrdd
  • Deall eich blaenoriaethau digidol a sero net a pha gamau i'w cymryd
  • Addasu'n gyflym i'r cynnydd yn rheoliadau sero net y llywodraeth a'r pwysau gan gontractwyr
  • Ehangu eich busnes drwy ddatblygu datrysiadau arloesol newydd i ymuno â'r cynnydd yn y farchnad 'sero net'
  • Diwallu'r cynnydd mewn galwadau gan gwsmeriaid am gynnyrch a gwasanaethau ecogyfeillgar
  • Cynyddu elw, torri costau cynhyrchu a chanfod mesurau sy'n arbed ynni
  • Gwella eich sefyllfa yn y gadwyn gyflenwi drwy gynnwys cynaliadwyedd yn eich prosesau caffael
Y Tim digidol gwyrdd

Beth fyddwch chi'n ei gael?

Drwy'r prosiect byddwch yn gallu cael mynediad at gefnogaeth ymgynghorol, a ariennir yn llawn, gan fentor arbenigol a fydd yn gweithio gyda chi i werthuso ble mae eich busnes chi heddiw.

Bydd yn eich helpu i gynnal asesiad diagnostig sero net o allbwn carbon eich busnes a'ch gweithwyr, gan gynnwys teithio mewn car, defnyddio ynni, gwaredu gwastraff a defnyddio deunyddiau, yn ogystal ag asesiad manwl o alluoedd digidol. Bydd hyn yn arwain at adroddiad unigol a map pwrpasol ar gyfer eich busnes.

Yna byddant yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun a fydd yn eich helpu i nodi a chael mynediad at gyllid a hyfforddiant i ymgysylltu’n llwyddiannus â thechnoleg ddigidol a’i defnyddio i leihau eich ôl troed carbon, a chefnogi’r gwaith o gyflawni’r map ffordd ar gyfer eich busnes.

Trwy’r Academi Ddigidol Werdd gallwch gael mynediad at grantiau cyfalaf datgarboneiddio a digidol hyd at £10,000 a fydd yn helpu i leihau eich allyriadau a gwneud eich busnes yn fwy cynaliadwy.

Peidiwch ag oedi rhag cysylltu â’r Tîm Digidol Gwyrdd gan mai dim ond tan fis Rhagfyr 2024 y mae’r grantiau ar gael.

Cyfweliad GDA Outdoor Alternative

Astudiaethau Achos

Trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae Busnes@LlandrilloMenai wedi bod yn gweithio gyda busnesau ar draws siroedd Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych a sir Y Fflint i leihau eu ôl-troed carbon trwy’r Academi Ddigidol Werdd. Mae’r rhaglen sydd wedi ei ariannu yn llawn, yn darparu cymorth a chyngor arbenigol i helpu busnesau micro, bach a ganolig addasu ar gyfer dyfodol sero net.

Dewch i wybod mwy

I gael rhagor o wybodaeth

Llenwch y ffurflen isod, neu cysylltwch â'r Academi Ddigidol Werdd ar:

Enw a Sir y busnes

Ariennir y prosiect hwn £1.4 gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn brif biler agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, buddsoddi mewn cymunedau a lle, gan gynorthwyo busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy

Logos prosiect digidol gwyrdd