Hyfforddiant Net Sero Training Gwynedd
Darparu hyfforddiant a sgiliau blaengar mewn datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy ac ôl-osod ym Mhenygroes yng Ngwynedd, Gogledd Cymru.
Mae Hyfforddiant Net Sero Training Gwynedd yn darparu hyfforddiant blaengar mewn datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy, a sgiliau ôl-ffitio o Dŷ Gwyrddfai, Penygroes.
Mae’r hyfforddiant a ddarperir yn galluogi unigolion a busnesau i ddatblygu sgiliau ym maes lleihau carbon, sy’n datblygu’n gyflym, gan ddarparu hyfforddiant i ddiwydiant sy’n cynnwys:
- Ynni Adnewyddadwy
- Ôl-ffitio (Retrofit)
- Effeithlonrwydd Ynni
- Datgarboneiddio
Astudiaeth Achos:
Mae Hyfforddiant Net Sero Gwynedd yn cael ei ddarparu gan Canolfan Isadeiledd Sgiliau a Thechnoleg (CIST) trwy Busnes@LlandrilloMenai. Mae’n darparu hyfforddiant arbenigol i unigolion a busnesau yn y sector adeiladu. Y nod yw uwchsgilio’r gweithlu i allu ymateb i’r galw am ddatgarboneiddio cartrefi a symud tuag at ddyfodol net sero. Mae’r cynllun yn cael ei ariannu trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Martin Roberts – Cyfarwyddwr/Cyd-berchennog, AER Cymru
Cwmni:
AER Cymru, Penrhyndeudraeth
Disgrifiad o’r cwmni:
Cafodd AER Cymru ei sefydlu 20 mlynedd ôl, mae bellach yn cyflogi 20 o bobl ac yn gweithredu ar hyd a lled gogledd Cymru. Mae gwasanaethau’r cwmni yn cynnwys gwaith trydanol, plymio a mecanyddol gyda phrosiectau o bob maint yn amrywio o newid ffiws neu wasier i gynlluniau mawr gwerth miliynau. Mae pedwar aelod o dîm AER yn cymryd rhan yn Hyfforddiant Net Sero Gwynedd.
Pa gyrsiau ydych chi wedi eu dilyn?
- EAL 18fed Argraffiad Rheoliadau Weirio, Ail Ddiwygiad - Deall Gofynion Rheoliadau Gwifro System Storio Ynni Trydanol
- EAL Level 3 Archwilio, Profi, Ardystio ac Adrodd ar Osodiadau Trydan
Pam wnaethoch chi benderfynu cofrestru gyda Hyfforddiant Sero Net Gwynedd?
Gyda mwy o alw am y dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer ynni gwyrdd mewn cartrefi a busnesau, roedden ni fel busnes yn edrych am ffyrdd i ddatblygu ein gweithlu. Mae’r galw i fod yn fwy cynaliadwy ac ynni effeithlon yn dal i dyfu, ac roedden ni’n gwybod y byddai’r hyfforddiant yma yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i’r tîm er mwyn sicrhau ein bod ni'n parhau i fod ar flaen y gad o ran datblygiadau yn y sector. Gyda chyrsiau am ddim a chefnogaeth ar garreg y drws — roedd hwn yn gyfle arbennig i ni ddatblygu sgiliau unigolion a’n gwasanaethau ni fel cwmni.
Sut mae’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu wedi bod yn ddefnyddiol i chi a’ch cwmni?
Mae’r sgiliau mae unigolion wedi eu dysgu wedi bod yn ddefnyddiol iawn o safbwynt datblygiad personol. Mae’r cyswllt uniongyrchol â’r wybodaeth ddiweddaraf am reoli’r systemau ynni gwyrdd wedi bod yn arbennig o werthfawr. I ni fel cwmni, mae’n golygu ein bod ni’n gallu parhau i ddatblygu, gan sicrhau bod ein gwasanaethau yn cydymffurfio â’r rheoliadau diweddaraf. Mae hefyd yn rhoi hyder i’n cwsmeriaid fod gan ein tîm y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i gynnig gwasanaeth o’r safon uchaf.

Kate Robinson, Robinsons Electrical
Cwmni:
Robinson Electrical, Tanygrisiau
Disgrifia’r cwmni:
Cwmni bach teuluol sy’n darparu gwasanaethau trydanol. Gwaith domestig rydyn ni’n wneud yn bennaf, yn cynnwys ailweirio cartrefi hŷn, gosodiadau trydanol, a thrwsio namau. Rydym yn darparu rhai gwasanaethau masnachol, fel creu Adroddiadau Cyflwr Trydanol (EICRs) a gwiriadau diogelwch mewn gwestai a llety hunanarlwyo.
Pa gyrsiau ydych chi wedi eu dilyn?
- Cymhwyster EAL L3 mewn gosod Systemau Solar Ffotofoltäig Graddfa Fach
- EAL Lefel 3 ar gyfer Gosod Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan
- Lefel 3 LCL mewn Systemau Storio Ynni Trydanol (EESS).
Pam wnaethoch chi benderfynu cofrestru gyda Hyfforddiant Net Sero Gwynedd?
Penderfynon ni gofrestru achos roedden ni eisiau gwella ein sgiliau. Pan ddaeth y cyfle hwn i fyny ac wedi ei ariannu yn llawn, roedden ni wrth ein boddau. Mae’r ffaith ei fod yn lleol hefyd yn wych.
Ydi’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu yn ddefnyddiol i chi a’ch cwmni?
Ydi, hynod o ddefnyddiol. Bellach rydym yn gallu gosod pwyntiau gwefru EV, ac yn bwriadu cynnig hyn i gwsmeriaid yn fuan. Rydym wedi datblygu sgiliau mewn gosod paneli solar a batris storio trydan yn ogystal â gwaith cynnal a chadw, sy’n ein galluogi i ehangu ein gwasanaethau. Mae wedi helpu ni hefyd i allu cynghori cwsmeriaid ar sut i storio a defnyddio ynni yn fwy effeithlon.

Gary Williams, Adra (Tai) Cyf
Cwmni:
Adra (Tai) Cyf
Disgrifia’r cwmni:
Mae Adra yn gymdeithas dai cymdeithasol sy’n gweithredu yng Ngwynedd a thu hwnt, gyda dros 7,000 o gartrefi a 16,000 o gwsmeriaid.
Pa gyrsiau ydych chi wedi eu dilyn?
- Tystysgrif ABBE Lefel 3 mewn Asesu Ynni Domestig
- Cymhwyster EAL L3 ar Osod Systemau Solar Ffotofoltäig Graddfa Fach
- Lleithder a Llwydni mewn Adeiladau Traddodiadol a mwy
Pam wnaethoch chi gofrestru gyda Hyfforddiant Net Sero Gwynedd?
Mae’r cyrsiau yn berthnasol iawn i’r hyn rydan ni’n ei wneud. Roedden ni’n falch o allu cyd-weithio efo Busnes@LlandrilloMenai a CIST i hyfforddi ein staff ac mae’r ffaith bod y cyrsiau wedi eu hariannu yn llawn wedi bod o fudd ac yn rhyddhau cyllideb ar gyfer elfennau eraill o ofalu am ein cwsmeriaid a’u cartrefi.
Ydi’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu wedi bod yn ddefnyddiol i chi a’ch cwmni?
Diolch i’r cynllun rydan ni wedi gallu uwch-sgilio ein tîm fel eu bod nhw’n gallu gosod y dechnoleg diweddaraf yng nghartrefi cwsmeriaid. Mae’r cyrsiau hefyd wedi helpu i godi ymwybyddiaeth ein syrfewyr a’n archwilwyr o’r gwahanol fathau o dechnoleg sydd ar gael i leihau carbon, gwella effeithlonrwydd cartrefi ac anelu am ddyfodol net sero.

Osian Rowlands, Datblygiadau Egni Gwledig (DEG)
Cwmni:
Datblygiadau Egni Gwledig (DEG)
Disgrifia’r cwmni:
Mae DEG yn fenter gymdeithasol sy’n cefnogi gweithredu cymunedol yng ngogledd orllewin Cymru. Y nod yw cynyddu’r gallu i ymdrin â’r cynnydd yng nghost tanwydd ffosil ac i wella ein amgylchedd naturiol.
Pa gyrsiau ydych chi wedi eu dilyn?
- Dyfarniad Lefel 3 ABBE mewn Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau ac Adeiladau Traddodiadol
Pam wnaethoch chi benderfynu cofrestru gyda Hyfforddiant Net Sero Gwynedd?
Roeddwn i’n awyddus i ddatblygu fy sgiliau er mwyn cyflawni fy swydd fel Swyddog Ynni Cymunedol yn ardal Caernarfon a Dyffryn Peris. Wrth roi cyngor a chynnal arolygon ynni rydw i'n meddwl ei bod hi’n bwysig bod trigolion yn gallu cael gwasanaethu gan bobl lleol sydd wedi eu hyfforddi'n lleol.
Ydi’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu wedi bod yn ddefnyddiol i chi a’ch cwmni?
Ydi yn sicr ac yn enwedig gan bod un o ddyletswyddau fy swydd yn golygu cynnal arolwg ynni yng nghartrefi unigolion sydd eisiau bod yn fwy effeithlon neu mynd i'r afael a thlodi tanwydd. Fel cam nesaf rydw i wedi cofrestru ar gyfer y cwrs Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol. Mae’r cynllun yn un gwerth chweil a byddwn yn annog pobl sy’n gweithio yn y maes ac eisiau gwella eu sgiliau i gofrestru.

Profiad o Ddarparu
Darperir arbenigedd hyfforddi gan Ganolfan Isadeiledd Sgiliau a Thechnoleg Busnes@LlandrilloMenai (CIST). Mae gan y ganolfan, sydd wedi'i lleoli yn Llangefni, enw da profedig o ddarparu'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen ar unigolion a busnesau i ffynnu ym maes technolegau lleihau carbon sy'n datblygu'n gyfly, trwy ddarparu hyfforddiant achrededi, proffesiynol a datblygu darpariaeth mewn technolegau gwyrdd sy'n dod i'r amlwg.
Tŷ Gwyrddfai
Wedi ei leoli ym Mhenygroes, Gwynedd, mae Tŷ Gwyrddfai yn ganolfan ddatgarboneiddio byd-flaengar. Mae’n brosied cydweithredol rhwng Adra, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor sydd wedi trawsnewid yr hen ffatri ‘Northwood Tissue’ ym Mhenygroes yn hwb datgarboneiddio gan sicrhau y bydd Gogledd Orllewin Cymru ar flaen yr agenda datgarboneiddio, gan weithio gyda chymunedau a busnesau i ôl-ffitio cartrefi dros y 10 mlynedd nesaf.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am sut y gallwch chi gael mynediad at hyfforddiant lleihau carbon drwy'r prosiect Hyfforddiant Net Sero Training Gwynedd, cysylltwch â ni ar cist@gllm.ac.uk neu llenwch y ffurflen isod.
Mae Hyfforddiant Net Sero Training Gwynedd wedi derbyn £500k gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn brif biler agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, buddsoddi mewn cymunedau a lle, gan gynorthwyo busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch ihttps://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy