Gwasanaethau Arbenigol

Cyngor a chefnogaeth arbenigol i'ch helpu i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol, o weithgynhyrchu i fwyd ac i ynni.

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur

Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)

Partneriaeth dair ffordd ydy KTP rhwng y cwmni, y tîm academaidd (y colegau) a'r graddedigion (aelod cysylltiol KTP), sy'n eich galluogi chi i gael arbenigedd a sgiliau a fydd yn helpu eich cwmni i ddatblygu medrau newydd a fydd yn arwain at fwy o elw a chystad.

Dewch i wybod mwy...
Profi labordy

Y Ganolfan Technoleg Bwyd (CTB)

Sefydlwyd y Ganolfan Technoleg Bwyd ar gampws Llangefni yn 1999 a chwaraea ran allweddol yn y gwaith o drosglwyddo gwybodaeth i'r diwydiant bwyd yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Yn y ganolfan hon, mae adnoddau pwrpasol sy'n cynnwys neuaddau i brosesu cig ffres, pysgod, cynnyrch llaeth a bwyd a baratowyd; cegin profi a datblygu cynnyrch a labordy dadansoddi cynnyrch.

Dewch i wybod mwy...
Myfyrwyr ar safle adeiladu

Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg

Mae’r Ganolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llangefni yn rhoi pwyslais pendant ar weithio mewn partneriaeth i ddarparu hyfforddiant sgiliau Isadeiledd o ansawdd uchel.

Mae CIST yn llwyfan i’r diwydiant Isadeiledd weithio gyda busnesau i hyrwyddo datrysiadau a chynnyrch arloesol, ac mae’n lleoliad delfrydol i brofi ac arddangos cynnyrch newydd yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.

Dewch i wybod mwy...
Logo CAMVA

Asiantaeth Cyflogadwyedd a Menter - CAMVA

Mae CAMVA yn pontio'r bwlch rhwng dysgwyr a chyflogwyr ac rydym yn cynnig cyfleoedd i gyflogwyr lleol ymgysylltu â dysgwyr trwy gyfrwng y gwasanaethau isod.

Dewch i wybod mwy...
Adeiladau campws Glynllifon

Coleg Glynllifon

Campws diwydiannau’r tir, sy’n cynnwys cyfleusterau preswyl, yw Coleg Glynllifon. Saif ar Ystâd Glynllifon ger Caernarfon.

Mae fferm Glynllifon, yn cynnwys y coetir, yn ymestyn dros 300 hectar, ac mae’n amgylchedd gwych ar gyfer astudio rheoli cefn gwlad ac amaethyddiaeth.

Dewch i wybod mwy...
Adeiladau Prifysgol Bangor

Y Ganolfan Rheoli Busnes, Bangor

Mae Grŵp Llandrillo Menai (GLLM) a'r Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig amrediad eang o gymwysterau proffesiynol a gydnabyddir gan y diwydiant ac a fydd yn datblygu'ch sgiliau ac yn gwella'ch cyflogadwyedd.

Mae'r Ganolfan Rheolaeth yn Ganolfan Hyfforddi breswyl yn un o brif Ysgolion Busnes y Deyrnas Unedig. Darpara hyfforddiant blaengar, proffesiynol a phwrpasol i'r farchnad fusnes fyd-eang, gan hybu cynaliadwyedd busnesau drwy feithrin rheolwyr sy'n ymwybodol o syniadau cyfredol, perthnasol a chyfoes yn y maes. Darperir cyrsiau ar bob lefel, o lefel aelodau tîm i lefel arweinwyr busnes a Phrif Swyddogion Gweithredol.

Cynigia'r Ganolfan amrediad eang o gymwysterau proffesiynol a gydnabyddir gan y diwydiant. Bwriadwyd y rhain, a gynigir ym maes Arwain a Rheoli, Hyfforddi a Mentora, a Phrynu a Chyflenwi, ar gyfer rheolwyr canol ac uwch reolwyr, ac fe'u cyflwynir gan hwyluswyr rhyngwladol profiadol sydd â phrofiad ymarferol eang mewn diwydiant.

Rydym yn falch o gynnig i gleientiaid becynnau datblygiad a hyfforddiant proffesiynol sydd wedi'u teilwrio ar gyfer eu hanghenion, a gellir achredu ein holl raglenni.