ABBE Lefel 5 Diploma Cydlynu ac Asesu Risgiau Ôl-osod

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      Remote Learning
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      Dan eich pwysau eich hun. Mae gennych 8 mis i gwblhau'r cwrs

    Gwnewch gais
    ×

    ABBE Lefel 5 Diploma Cydlynu ac Asesu Risgiau Ôl-osod

    Professional

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Mae Diploma Lefel 5 ABBE mewn Cydlynu ac Asesu Risgiau Ôl-osod yn addas i unigolion sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu a'r amgylchedd adeiledig. Dan safonau PAS2035 mae Cydlynydd Ôl-osod yn swydd orfodol ar gyfer pob prosiect ôl-osod.

    Rôl y Cydlynydd Ôl-osod yw diogelu buddiannau'r cleient a buddiannau'r cyhoedd.

    Mae angen i Gydlynwyr Ôl-osod allu cydlynu prosiectau o'r dechrau i'r diwedd (h.y. o ddechrau prosiect ôl-osod hyd at ei drosglwyddo a thu hwnt, gan gynnwys gwneud gwaith monitro a gwerthuso sylfaenol) a nodi, asesu a rheoli'r risgiau technegol a phrosesu sy'n gysylltiedig â phrosiectau ôl-osod domestig. Mae'r Cydlynydd Ôl-osod yn rhan ganolog o'r holl broses ôl-osod.

    Rhaid i gynlluniau gydymffurfio os ydynt am weithredu o dan TrustMark – y nod ansawdd newydd ar gyfer y sector Ôl-osod.

    Y Cydlynydd Ôl-osod fydd yn gyfrifol hefyd yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â PAS2035. Mae'r cymhwyster hwn yn cadarnhau cymhwysedd galwedigaethol.

    Gofynion mynediad

    Mae'r cymhwyster yn addas i'r sawl sydd wedi gweithio am o leiaf ddwy flynedd ym maes adeiladu neu'r amgylchedd adeiledig yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae angen prawf o hyn trwy CV neu eirda/llythyr gan gyflogwyr.

    Mae'r cymhwyster wedi'i anelu at y sawl sydd eisoes yn gyfarwydd ag ôl-osod a rheoli prosiectau.

    Bydd angen i ddysgwyr ddangos eu bod yn gyfarwydd â thechnegau adeiladu domestig, eu bod yn gallu darllen a deall lluniadau a manylebau adeiladu, eu bod yn gyfarwydd â’r Rheoliadau Adeiladu a rheoliadau ac arferion iechyd a diogelwch ym maes adeiladu, a bod ganddynt brofiad/dealltwriaeth o reoli prosiectau ôl-osod (e.e. rheoli cyllid, contractau, gwaith contractwyr ac ati).

    NEU

    Fod â chymhwyster proffesiynol mewn pwnc sy'n ymwneud ag adeiladu (fel pensaernïaeth, tirfesur, peirianneg neu reoli ym maes adeiladu), neu bwnc sy'n ymwneud â rheoli neu oruchwylio prosiectau adeiladu a phrosiectau adeiladu domestig.

    NEU

    Fod â Chymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) ar Lefel 3 neu uwch, neu o leiaf 12 credyd mewn pwnc sy'n ymwneud â rheoli neu oruchwylio prosiectau adeiladu ac adeiladu domestig, ynghyd â phrofiad o weithio yn y diwydiant dylunio/codi adeiladau.

    NEU

    Wedi cwblhau cwrs Cydlynu Ôl-osod AECB CarbonLite™ (CLRrc), a hefyd yn gweithio yn y diwydiant dylunio/codi adeiladau.

    Cyflwyniad

    Cwrs ymarferol yw hwn sy'n cael ei gydbwyso ag aseiniadau academaidd. Rhoddir theori ar waith trwy ddefnyddio astudiaethau achos o feddalwedd ôl-osod sy'n seiliedig ar brosiectau go iawn. Mae hyn yn sicrhau bod cydlynwyr sydd newydd gymhwyso yn barod i gyflawni eu rôl yn hyderus pan fyddant yn dechrau ar eu gwaith.

    Asesiad

    Cewch eich asesu trwy brofion amlddewis, cwestiynau ysgrifenedig, a chyflwyniad fideo/sain ar ddiwedd pob modiwl. Tuag at ddiwedd y cwrs cewch asesiadau meddalwedd ymarferol i sicrhau eich bod yn teimlo'n barod i ymorol am gydlynu prosiectau go iawn.

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom