Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfrifon Dysgu Personol

Ail-ysgrifennwch eich gyrfa gyda Chyfrif Dysgu Personol.

Beth yw Cyfrif Dysgu Personol?

Mae Cyfrif Dysgu Personol yn ffordd hyblyg o gael hyfforddiant am ddim mewn amrywiaeth eang o feysydd.

Mae'r cyrsiau hyn yn rhoi cyfle i chi feithrin sgiliau newydd a chael y cymwysterau y mae ar gyflogwyr eu hangen – gan eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa bresennol neu chwilio am gyfleoedd newydd.

Gallwch gyfuno'r cyrsiau hyn â'ch swydd bresennol a'ch cyfrifoldebau teuluol ac mae gennym ddewis helaeth o leoliadau a dyddiadau ar gael.

Pobl yn defnyddio gliniadur

Ydw i'n gymwys?

I fod yn gymwys am hyfforddiant drwy Gyfrif Dysgu Personol, mae'n rhaid i chi fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol, a bod:

  • yn gyflogedig (neu'n hunangyflogedig), neu
  • ar gontract dim oriau, neu
  • staff asiantaeth, neu
  • mewn perygl o gael eich gwneud yn ddi-waith,
  • ac yn ennill cyflog sylfaenol blynyddol o dan £32,371 y flwyddyn

Rhaid i chi hefyd fod dros 19 oed, yn byw yng Nghymru, a gyda’r gallu i deithio i safle'r coleg os oes angen.

Ni fyddwch yn gymwys os byddwch (ar adeg gwneud y cais):

  • o dan 19 oed, neu'n
  • ddisgybl neu'n fyfyriwr llawn amser mewn ysgol neu goleg, neu
  • mewn addysg uwch llawn amser, neu'n
  • cael eich ariannu gan Lywodraeth Cymru i wneud cwrs Dysgu Seiliedig ar Waith, neu'n
  • ddinesydd tramor anghymwys, neu'n
  • derbyn Grant Dysgu'r Cynulliad neu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, neu'n ddi-waith, h.y. nid oes gennych gontract cyflogaeth

Sylwer: Mae gennym bellach amrywiaeth o gyrsiau 'Digidol' a 'Net Zero' ar gael nad oes ganddynt feini prawf cymhwyster uchafswm cyflog.

Faint fydd yr hyfforddiant yn ei gostio?

Dim. Bydd Llywodraeth Cymru'n talu holl gostau'r hyfforddiant. Fodd bynnag, bydd rhaid i chi dalu eich costau teithio eich hun a sicrhau eich bod yn gallu ymroi digon o amser i fynychu a chwblhau'r cwrs.

Bydd cyllid CDP ar gyfer 2024/25 yn cael ei gapio ar gyfanswm o £5,856.03 i bob dysgwr. Cysylltwch â ni os ydych angen rhagor o wybodaeth.

Oes angen unrhyw sgiliau neu gymwysterau blaenorol arnaf?

Mae rhai cyrsiau yn gofyn bod gennych rai sgiliau neu gymwysterau blaenorol, amlygir hyn yn yr wybodaeth am gyrsiau unigol isod.

Anelir y rhaglen at unigolion sydd â'u bryd ar newid eu gyrfa, felly nid oes angen sgiliau na chymwysterau penodol ar gyfer mwyafrif y cyrsiau. Cewch gyfle i drafod gofynion y cwrs gyda'r coleg pan gewch eich asesiad cychwynnol.

Alla i ddilyn mwy nag un cwrs?

Gallwch, ond nodwch os gwelwch yn dda - gallwch gofrestru ar un cwrs PLA ar y tro yn unig. Os ydych yn cyflwyno mwy nag un cais, byddem yn cysylltu â chi i gadarnhau pa gwrs ydi eich dewis cyntaf.

Pa gyrsiau sydd ar gael? Pryd maen nhw'n dechrau?

Mae gennym amrediad eang o gyrsiau sy'n cwmpasu amrywiaeth o wahanol sectorau:

Ochr yn ochr â'r cyrsiau a addysgir yn y coleg, rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar-lein. Gall y rhain fod yn gymysgedd o waith ar-lein a gwaith ymarferol a wneir drwy gadw pellter cymdeithasol. Mae'n bosibl dechrau rhai o'r cyrsiau hyn ar unrhyw adeg.

Rydym yn ychwanegu cyrsiau newydd drwy'r adeg, felly nodwch y dudalen a chwiliwch am gyfleoedd arni'n gyson.

Cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol:

Cyrsiau Net Sero - Nid oes meini prawf cymhwyster uchafswm cyflog gyda'r cyrsiau canlynol

Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Weldio ARC
Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Weldio MIG/MAG
Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Weldio TIG
NICEIC Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig heb Dyllau Aer
Rheoliadau Dŵr
NICEIC Systemau Dŵr Poeth Solar i Wresogi Tai
NICEIC Pympiau Gwres Awyr, Tarddiad Daear a Dylunio Pympiau
Tystysgrif NEBOSH mewn Rheoli'r Amgylchedd
Diploma NEBOSH mewn Rheolaeth Amgylcheddol
EAL Dyfarniad Lefel 3 mewn Gosod a Chynnal a Chadw Systemau Ffotofoltaidd Solar ar Raddfa Fach
City & Guilds 2921 Codi Tâl Cerbydau Trydan
Effeithlonrwydd Ynni - Gwresogi Domestig
System Storio Ynni Trydanol
EAL EV3/01 Deall Gofynion Gosod Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan
EAL Lefel 3 - Gweithiwr Electrodechnegol Profiadol
Dŵr Poeth Tymheredd Isel
Systemau Awyru Cartrefi
ABBE Tystysgrif Lefel 3 Mewn Asesu Ynni Domestig
Dyfarniad Lefel 3 ABBE mewn Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau ac Adeiladau Traddodiadol
Systemau Domestig sy'n Pwmpio Gwres o'r Ddaear
Systemau Domestig sy'n Pwmpio Gwres o'r Aer
ABBE Lefel 5 Diploma Cydlynu ac Asesu Risgiau Ôl-osod
ABBE Lefel 3 Aseswyr Ôl-osod Tystysgrif lefel 3
Systemau Awyru Domestig
AIM Lefel 4 Aseswyr Ôl-osod Dyfarniad
AIM Tystysgrif Lefel 3 Gynghorwyr Ôl-osod Domestig
AIM Lefel 5 Diploma Mewn Cydlynu a Rheoli Risgiau Ôl-osod
Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Weldio Arc Fetel â Llaw (MMA) - Plât (3268-53)
Systemau Dŵr Poeth Solar Bpec
Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig
Bpec Rheoliadau Dŵr
Bpec Effeithlonrwydd Ynni - Gwresogi Domestig
Systemau Casglu Dŵr Glaw ac Ailgylchu Dŵr Llwyd

Cyrsiau digidol - Nid oes meini prawf cymhwyster uchafswm cyflog gyda'r cyrsiau canlynol

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

EAL Gwobr Level 3 Archwilio, Profi, Ardystio ac Adrodd ar Osodiadau Trydan
NPORS Peiriant Turio 360° dros 10 tunnell (N202)
NPORS Llwythwr Telesgopig (N010)
NPORS Rholiwr Ffyrdd (N214)
NPORS Dadlwythwr Tipio Ymlaen (N204)
Hyfforddiant Gwrthbwyso Wagen Fforch Godi Codau ABA B1, (Dechreuwyr)
CWRS TROSI RTITB MEWN DEFNYDDIO PEIRIANT CODI TELESGOPIG AR DIR GARW;
RTITB Hyfforddiant Tryc Estyn (Dechreuwyr)
EAL 18fed Argraffiad Rheoliadau Weirio, Ail Ddiwygiad - Deall Gofynion Rheoliadau Gwifro (BS 7671:2018) (Mawrth 2022)
BPEC Asesu Risg Legionella a Diheintiad Dŵr ar gyfer Gwasanaethau Mecanyddol
Pecyn Hyfforddi ac Asesu Nwy Domestig (CCN1) NICEIC ACS (2)
Pecyn Hyfforddi ac Asesu Nwy Domestig (CCN1) NICEIC ACS (1)
BPEC - Asesiadau Diogelwch Craidd o Nwy Domestig Naturiol (CCN1)
BPEC - Anheddau Parhaol - Domestig, Masnachol ac Arlwyo (CCLP1 PD)
Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Arolygu a Phrofi Offer Trydanol sydd mewn Defnydd (2377-77)
BPEC - Cartrefi Preswyl mewn Parciau (CCLP1 RPH)
BPEC Gwresogyddion Gwres Aer (DAH1)
BPEC – Tanau/Gwresogyddion Nwy (HTR1)
BPEC - Poptai Nwy (CKR1)
BPEC - Gwres Canolog / Gwresogyddion Dŵr
NPORS Goruchwyliwr Diogelwch Safle Adeiladu (SSSTS) (S029)
NPORS Swyddog Rheoli Gweithrediadau Cloddio (N027)
NPORS Telescopic Handler Suspended Loads (N138)
Tryciau dadlwytho o'r tu cefn NPORS (N205)
NPORS Swyddog Rheoli Gweithrediadau Cloddio (N027)
BPEC - Mesuryddion Nwy Domestig (MET1)
NPORS Rheolwr Diogelwch Adeiladu (SMSTS) (S031)
Dyfarniad Lefel 3 mewn Archwilio a Phrofi (CG2391-52)
Offeryn Osgoi Cebl NPORS (N304)
BPEC LPG ( HTRLP2) Tân Nwy Ffliw Caeedig - LPG
Pecyn Hyfforddi ac Asesu Nwy Domestig (CCN1) NICEIC ACS (3)
Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds yn y Gofynion ar gyfer Gosodiadau Trydanol BS 7671:2018 (2382-22)

e-Gyrfaoedd

Mae GLLM wedi partneru ag e-Gyrfaoedd i gynnig ystod eang o gyrsiau i chi.

Mae e-Gyrfaoedd yn sefydliad hyfforddi proffesiynol sy'n darparu cyrsiau achrededig trwy e-ddysgu neu drwy Virtual Classrooms.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cais PLA neu gofrestru gyda ni, bydd y tîm yn e-Gyrfaoedd yn rheoli cyflwyniad eich cwrs. I gael rhagor o wybodaeth am e-Gyrfaoedd, ewch i www.e-careers.com

Unrhyw gwestiynau?

Ebost pla@gllm.ac.uk

Rhowch eich enw llawn.

Rhowch eich e-bost fel y gallwn gysylltu.

Rhowch eich neges.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date