AIM Lefel 5 Diploma Mewn Cydlynu a Rheoli Risgiau Ôl-osod
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Remote Learning
- Dull astudio:Part-time
- Hyd:
Astudio annibynnol gyda 4 sesiwn hanner diwrnod dan arweiniad arbenigwr (rhaid cwblhau'r cwrs cyn pen 6 mis)
AIM Lefel 5 Diploma Mewn Cydlynu a Rheoli Risgiau Ôl-osodProfessional
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae Diploma Lefel 5 AIM mewn Cydlynu a Rheoli Risgiau Ôl-osod yn rhoi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn Gydlynydd Gwaith Ôl-osod; rôl hollbwysig newydd sy'n ofynnol dan safonau PAS 2035.
Mae'n ddelfrydol i weithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig sydd am gael gyrfa'n diffinio a rheoli prosiectau ôl-osod.
I gael gyrfa'n gweithio fel Cydlynydd Ôl-osod mae'n rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru a'ch achredu gan TrustMark. I gyflawni'r achrediad hwn, rhaid cael Diploma Lefel 5 mewn Cydlynu a Rheoli Risgiau Ôl-osod.
Strwythur y Cwrs
Mae'r cwrs yn cynnwys deuddeg modiwl ynghyd ag astudiaeth achos gynhwysfawr. Mae pob modiwl yn cynnwys deunyddiau addysgu helaeth, cyflwyniadau arbenigol, astudiaethau achos a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i roi dealltwriaeth fanwl i chi o waith ymarferol a theori
Gofynion mynediad
Gan ei fod yn gymhwyster a reoleiddir, mae i'r cwrs Cydlynu a Rheoli Risgiau Ôl-osod ofynion mynediad penodol. Mae’r gofynion sylfaenol ar gyfer pob dull astudio'n cynnwys y meini prawf allweddol canlynol:
- 12 credyd Lefel 3 mewn pwnc sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd adeiledig
- Cymwyseddau proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig fel y'u diffinnir gan PAS 2035
O leiaf dwy flynedd o brofiad yn gweithio ar brosiectau ôl-osod neu effeithlonrwydd ynni
Cyflwyniad
Pan fyddwch chi'n cofrestru ar gwrs, byddwch yn cael mynediad i'n system rheoli dysgu. Dyma'r llwyfan e-ddysgu y cyflwynir y cwrs arno a thrwy hwn rydych yn anfon eich aseiniadau atom.
Yn ogystal â'r modiwlau e-ddysgu, rydym yn cynnal gweithdai unigryw ar gydlynu ôl-osod. Mae'r rhain yn cynnig profiadau hanfodol wrth i chi ddysgu gan gymheiriaid dan arweiniad ein tiwtoriaid arbenigol sydd hefyd yn gydlynwyr ôl-osod wrth eu gwaith bob dydd.
Gallwch ddewis gwneud y gweithdai hyn yn rhithwir neu trwy ddod i'n canolfan hyfforddi.
Os ydych eisoes yn adeiladwr neu ddylunydd proffesiynol a chymwysedig, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer ein rhaglen Pro-Track – llwybr lle mae'r holl ddysgu'n digwydd yn annibynnol.
Asesiad
Bydd pob dysgwr yn cael asesydd a fydd yn rhoi arweiniad ac adborth iddo ar bob aseiniad.
Asesir y cwrs trwy:
- Brofion amlddewis ar ddiwedd pob modiwl
- Aseiniadau ysgrifenedig byr yn gysylltiedig â'r amcanion dysgu allweddol
- Cyflwyniad llafar yn gysylltiedig â'r astudiaeth achos