AIM Lefel 4 Aseswyr Ôl-osod Dyfarniad

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      Remote Learning
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      Astudio annibynnol sy'n rhaid ei gwblhau cyn pen 12 wythnos

    Gwnewch gais
    ×

    AIM Lefel 4 Aseswyr Ôl-osod Dyfarniad

    Professional

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Bydd Aseswyr Ôl-osod yn allweddol wrth i'r Deyrnas Unedig leihau ei hallyriadau carbon trwy wella effeithlonrwydd ynni a gwneud gwaith ôl-osod mewn hyd at 27 miliwn o gartrefi.

    Mae PAS 2035 yn nodi'r safonau y mae'n rhaid i weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â phrosiectau ôl-osod gydymffurfio â hwy. Eu gwaith yw ymweld ag eiddo i gynnal arolwg o'r hyn sydd ei angen i wella eu heffeithlonrwydd ynni.

    Gan weithio dan oruchwyliaeth Cydlynydd Ôl-osod, bydd hyn yn golygu asesu cyflwr, deiliadaeth ac arwyddocâd yr adeilad yn unol â'r PAS.

    Mae'r cwrs yn un cyfunol, felly mae'r wybodaeth yn cael ei chyflwyno trwy raglen e-ddysgu ac mewn gweithdy hanner diwrnod lle bydd tiwtor ar gael i ateb unrhyw gwestiynau. Yn ogystal, rhaid cynnal asesiad rhithwir o eiddo ac yna llunio adroddiad sy'n seiliedig ar dempled asesu'r Academi Ôl-osod. Mae hyn i'ch helpu i baratoi ar gyfer yr asesiad terfynol.

    Strwythur y Cwrs

    Mae'r cwrs yn cynnwys naw uned sy'n trafod holl agweddau asesiad ôl-osod. Mae pob modiwl yn cynnwys deunyddiau dysgu helaeth, cyflwyniadau arbenigol, astudiaethau achos a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i roi dealltwriaeth fanwl i chi o waith ymarferol a theori.

    Gofynion mynediad

    Gan ei fod yn gymhwyster a reoleiddir, mae i'r cwrs Lefel 4 mewn Asesu Ôl-osod Domestig ofynion mynediad penodol. Rhaid wrth o leiaf gymhwyster Lefel 3 mewn Asesu Ynni Domestig ar gyfer pob dull astudio.

    Cyflwyniad

    Dysgu cyfunol

    • Rhaglen e-ddysgu ddigidol o'r radd flaenaf
    • Hyfforddiant ôl-osod dan arweiniad arbenigwyr
    • Dysgu gan gymheiriaid a chael eich cefnogi ganddynt
    • Adnoddau dysgu ac adnoddau technegol manwl
    • Cefnogaeth mentor arbenigol

    Asesiad

    Portffolio o Dystiolaeth

    Dilyniant

    Cydlynydd Ôl-osod

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom