Pecyn Hyfforddi ac Asesu Nwy Domestig (CCN1) NICEIC ACS (1)

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      CIST-Llangefni
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      Hyfforddiant - 2 ddiwrnod

      Asesu – hyd at 3 diwrnod

      Elfennau’r Cwrs

      • CCN1 – Diogelwch Nwy Craidd
      • CENWAT – Boeleri Gwres Canolog a Gwresogyddion Dŵr
      • CKR1 – Poptai
      • HTR1 - Tanau Nwy a Gwresogyddion Wal
    Gwnewch gais
    ×

    Pecyn Hyfforddi ac Asesu Nwy Domestig (CCN1) NICEIC ACS (1)

    Short Course

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Crëwyd y rhaglen hon ar gyfer peirianwyr a gweithwyr nwy proffesiynol er mwyn sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y rheolau a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio gyda gwahanol fathau o offer nwy yn y cartref. Trwy gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol ac asesiadau ymarferol mae'r cwrs yn cyflwyno'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar y mynychwyr i gynnal eu cymwysterau a gwybod am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant nwy.

    Bydd y cwrs yn cynnwys astudio

    • Deddfwriaeth a safonau diogelwch nwy
    • Camau gweithredu a gweithdrefnau brys
    • Cynhyrchion a nodweddion hylosgi
    • Awyru
    • Gosod pibellau a ffitiadau
    • Profi tyndra a llwyrlanhau
    • Gwirio a/neu osod rheolyddion mesur
    • Sefyllfaoedd anniogel, hysbysiadau brys a labeli rhybuddio
    • Gweithredu a lleoli rheolyddion a falfiau ynysu brys
    • Gwirio a gosod pwysedd llosgyddion a chyfraddau nwy ar offer
    • Gweithredu a gwirio dyfeisiau a rheolyddion diogelwch nwy ar offer
    • Safonau Simneiau
    • Archwilio a phrofi simneiau
    • Gosod simneiau agored, simneiau cytbwys a simneiau ffan
    • Ailsefydlu cyflenwad nwy presennol ac aildanio offer
    • Archwilio, profi, comisiynu a chynnal a chadw offer nwy (ailasesiad yn unig).
    • Rheoliadau diogelwch nwy, Rheoliadau Adeiladu, Safonau Prydeinig a deddfwriaethau perthnasol eraill
    • Sefyllfaoedd anniogel a chamau brys
    • Pibellau nwy (yn benodol i gategori'r offer)
    • Ffliwiau ac awyru (yn benodol i gategori'r offer)
    • Hylosgi (yn benodol i gategori'r offer)
    • Dadansoddi Perfformiad Hylosgi (profion ffliwiau nwy)
    • Rheolyddion offer (yn benodol i gategori'r offer)
    • Comisiynu, gwasanaethu, cynnal a chadw a chanfod diffygion sylfaenol yn ymwneud â diogelwch nwy

    Gofynion mynediad

    I fod yn gymwys ar gyfer yr asesiad CCN1, rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf mynediad a amlinellir yn Nodyn Cyfarwyddyd 8 i unigolion sy'n dod o dan gategorïau 1, 2, a 3, fel y nodir yn rheolau'r cynllun ACS.

    Cyflwyniad

    • Dysgu yn y dosbarth

    Asesiad

    • Asesiad ymarferol a theori

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom