NPORS Swyddog Rheoli Gweithrediadau Cloddio (N027)

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      CIST-Llangefni
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      1 diwrnod

    Gwnewch gais
    ×

    NPORS Swyddog Rheoli Gweithrediadau Cloddio (N027)

    Short Course

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Mae'r cwrs NPORS hwn yn addas i'r sawl sy'n gyfrifol am drin peiriannau cloddio a sicrhau diogelwch gweithrediadau a gwasanaethau.

    Rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth o'r meysydd canlynol:

    • Dealltwriaeth sylfaenol o'r diwydiant, peryglon gweithio yn y diwydiant a chyfrifoldebau swyddogion rheoli gweithrediadau cloddio

    • Gwybodaeth am yr offer a ddefnyddir a bod yn gyfarwydd â Datganiadau Dull, Asesiadau Risg a Thrwyddedau Gwaith

    • Dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) addas

    • Cynnal yr holl wiriadau cynweithredol

    • Cytuno ar arwyddion cyfathrebu a gweithdrefnau brys

    • Lleoli Swyddogion Rheoli Gweithrediadau Cloddio yn ddiogel

    • Diffinio ac adnabod y gwahanol fathau o wasanaethau tanddaearol

    • Adnabod y risgiau a achosir gan gloddiadau a sut y gallant effeithio ar bobl

    • Cynnal yr holl wiriadau diogelwch angenrheidiol yn y man gwaith

    • Cynnal tasgau archwiliol

    • Nodi'r risgiau sy'n gysylltiedig â chloddio'n agos i wasanaethau tanddaearol a'r arferion cloddio diogel y dylid eu defnyddio

    • Cyflawni'r holl dasgau sydd eu hangen wrth orffen sifft a dilyn gweithdrefnau storio diogel

    Gofynion mynediad

    • Wedi cwblhau prawf Sgrin Gyffwrdd CSCS yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

    • Mae trwydded yrru'n ddymunol ond nid yn hanfodol.

    • Saesneg o safon dda

    Cyflwyniad

    • Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth

    • Arddangosiadau ymarferol

    • Ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor.

    Asesiad

    • Asesiad ymarferol
    • Arholiad theori.

    Dilyniant

    Cyrsiau hyfforddi eraill ym maes peiriannau trwm ac adeiladu a fyddai'n galluogi'r dysgwyr i weithio ac ehangu eu sgiliau yn y diwydiant adeiladu.


    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom