Offeryn Osgoi Cebl NPORS (N304)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Part-time
- Hyd:
1 diwrnod
×Offeryn Osgoi Cebl NPORS (N304)
Offeryn Osgoi Cebl NPORS (N304)Short Course
Disgrifiad o'r Cwrs
Erbyn diwedd y cwrs, dylai mynychwyr allu:
- Arddangos dealltwriaeth sylfaenol o'r diwydiant a'u rolau a'u cyfrifoldebau
- Arddangos dealltwriaeth o'r rheoliadau, safonau a deddfwriaeth berthnasol
- Nodi gwasanaethau dŵr, nwy, trydan a thelathrebu ar gynlluniau
- Archwilio'r safle am arwyddion gweledol o'r gwasanaethau sy'n bresennol
- Dangos lle mae gwasanaethau, mewn perthynas â'r cynlluniau
- Nodi difrod i samplau o wahanol fathau o gyfarpar tanddaearol
- Arddangos dealltwriaeth o'r risgiau a goblygiadau cyfarpar tanddaearol sydd wedi'i ddifrodi
- Cynnal yr holl wiriadau cynweithredol
- Cynnal yr holl wiriadau diogelwch angenrheidiol yn y man gwaith
- Defnyddio'r offer yn gywir i sganio ardal am gyfarpar tanddaearol a chofnodi'r canfyddiadau
- Marcio'r safle'n glir i ddangos lleoliad y cyfarpar tanddaearol
- Glanhau'r offer yn gywir, tynnu'r pecyn batri a'i gadw
Gofynion mynediad
- Wedi cwblhau prawf Sgrin Gyffwrdd CSCS yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
- Mae trwydded yrru'n ddymunol ond nid yn hanfodol.
- Dealltwriaeth dda o Saesneg llafar ac ysgrifenedig
Cyflwyniad
- Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth
- Arddangosiadau ymarferol
- Ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor.
Asesiad
- Asesiad ymarferol
- Arholiad theori
Dilyniant
Cyrsiau hyfforddi eraill ym maes peiriannau trwm ac adeiladu a fyddai'n galluogi'r dysgwyr i weithio ac ehangu eu sgiliau yn y diwydiant adeiladu.