Swyddog Cerbydau NPORS (N403)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Part-time
- Hyd:
1 diwrnod
×Swyddog Cerbydau NPORS (N403)
Swyddog Cerbydau NPORS (N403)Short Course
Disgrifiad o'r Cwrs
Rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth o'r meysydd canlynol:
- Dealltwriaeth sylfaenol o'r diwydiant a'r ddeddfwriaeth berthnasol, peryglon gweithio yn y diwydiant a chyfrifoldebau swyddog cerbydau
- Gwybodaeth ymarferol o lawlyfr y gwneuthurwr ar gyfer y cerbyd / peiriant dan sylw
- Dealltwriaeth dda o arwyddion a signalau, arwyddion llaw cydnabyddedig a gwahanol ddulliau cyfathrebu
- Nodi a chynnal y cyfarpar diogelu personol (PPE) sy'n briodol ar gyfer dyletswyddau swyddog cerbydau
- Cynnal yr holl wiriadau diogelwch angenrheidiol yn y man gwaith, yn cynnwys blociau atal a mannau tipio
- Sefydlu ardaloedd gwaharddedig ar gyfer dadlwytho
- Tywys peiriannau ymlaen ac yn ôl yn ddiogel ac yn effeithlon, gan gynnwys mewn mannau cyfyng a mannau lle na ellir gweld yn glir
- Ystyriaethau amgylcheddol
- Cyflawni'r holl dasgau sydd eu hangen wrth orffen sifft, parcio a diffodd peiriannau
Gofynion mynediad
- Wedi cwblhau prawf Sgrin Gyffwrdd CSCS yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf
- Mae trwydded yrru'n ddymunol ond nid yn hanfodol
- Dealltwriaeth dda o Saesneg llafar ac ysgrifenedig
Cyflwyniad
- Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth
- Arddangosiadau ymarferol
- Ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor
Asesiad
- Asesiad ymarferol
- Arholiad theori
Dilyniant
Cyrsiau hyfforddi eraill ym maes peiriannau trwm ac adeiladu a fyddai'n galluogi'r dysgwyr i weithio ac ehangu eu sgiliau yn y diwydiant adeiladu.