NPORS Rheolwr Diogelwch Adeiladu (SMSTS) (S031)

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      CIST-Llangefni
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      5 diwrnod dros 1 wythnos

    Cofrestrwch
    ×

    NPORS Rheolwr Diogelwch Adeiladu (SMSTS) (S031)

    Part-time Courses

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Mae'r cwrs NPORS hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sy'n gyfrifol am gynllunio, trefnu, monitro, rheoli a gweinyddu'r gweithlu ar safle adeiladu. Byddai'r unigolion hyn fel arfer yn cynnwys rheolwyr safle, darpar reolwyr safle, goruchwylwyr, pobl â chyfrifoldebau iechyd a diogelwch.

    Erbyn diwedd y cwrs bydd y mynychwyr wedi rhoi sylw i'r isod:

    ● Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch

    ● Dyletswyddau cyfreithiol (y cyflogwr, gweithiwr, hunangyflogedig a'r ymwelydd)

    ● Adeiladu (cynllunio a rheoli)

    ● Y Polisi Iechyd a Diogelwch

    ● Asesu Risg a Datganiadau Dull (RAMS)

    ● Gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwybodaeth

    ● Cynnal cymhwysedd ar y safle

    ● Pwysigrwydd cyfathrebu rhagorol

    ● Yr egwyddor o arwain ac ymgysylltu â gweithwyr

    ● Pwysigrwydd mesur, monitro ac adrodd ar iechyd a diogelwch yn gywir

    ● Risgiau Iechyd a Diogelwch

    ● Nodi ffurflenni statudol ac anstatudol, hysbysiadau, arwyddion a chofrestrau

    ● Achosion damweiniau, mesurau ataliol a Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

    ● Cynlluniau cyfnodau adeiladu

    ● Achosion afiechyd a phroblemau iechyd meddwl

    ● Gofynion o ran cyfleusterau lles

    ● Cyffuriau ac alcohol

    ● Rheoli Sylweddau Perygl i Iechyd (COSHH) a phryderon anadlol

    ● Sŵn, dirgryniadau a chodi a chario

    ● Ystyriaethau wrth sefydlu safle

    ● Trefniadau tân

    ● Diogelwch trydanol

    ● Gwaith dros dro

    ● Rheoli offer a chyfarpar

    ● Gweithrediadau codi

    ● Gweithio symudol a gweithio ar eich pen eich hun

    ● Gweithio ar uchder

    ● Cloddio a gwasanaethau (uwchben ac o dan y ddaear)

    ● Lleoedd cyfyng

    Gofynion mynediad

     Wedi cwblhau prawf Sgrin Gyffwrdd CSCS yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

     Mae trwydded yrru'n ddymunol ond nid yn hanfodol.

     Dealltwriaeth dda o Saesneg llafar ac ysgrifenedig

    Cyflwyniad

    Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth

    Asesiad

    Arholiad theori.

    Dilyniant

    Mae'r dystysgrif hon yn ddilys am 5 mlynedd.

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom