NPORS Swyddog Rheoli Gweithrediadau Cloddio (N027)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Part-time
- Hyd:
1 diwrnod
NPORS Swyddog Rheoli Gweithrediadau Cloddio (N027)Short Course
Disgrifiad o'r Cwrs
Rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth o'r meysydd canlynol:
Dealltwriaeth sylfaenol o'r diwydiant a'r ddeddfwriaeth berthnasol, peryglon gweithio yn y diwydiant a chyfrifoldebau swyddogion rheoli cerbydau / peiriannau gwaith
Gwybodaeth ymarferol o lawlyfr y gwneuthurwr ar gyfer y cerbyd / peiriant dan sylw
Dealltwriaeth dda o arwyddion a signalau, arwyddion llaw cydnabyddedig a gwahanol ddulliau cyfathrebu
Dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) addas ar gyfer swyddog rheoli cerbydau / peiriannau
Cynnal yr holl wiriadau diogelwch angenrheidiol yn y man gwaith, yn cynnwys blociau atal a mannau tipio
Sefydlu ardaloedd gwaharddedig ar gyfer llwytho / dadlwytho
Tywys peiriannau ymlaen ac yn ôl yn ddiogel ac yn effeithlon, gan gynnwys mewn mannau cyfyng a mannau lle na ellir gweld yn glir
Ystyriaethau amgylcheddol
Cyflawni'r holl dasgau sydd eu hangen wrth orffen sifft, parcio a diffodd peiriannau
Gofynion mynediad
• Wedi cwblhau prawf Sgrin Gyffwrdd CSCS yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
• Mae trwydded yrru'n ddymunol ond nid yn hanfodol.
• Saesneg o safon dda
Cyflwyniad
• Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth
• Arddangosiadau ymarferol
• Ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor.
Asesiad
• Asesiad ymarferol
• Arholiad theori.
Dilyniant
Cyrsiau hyfforddi eraill ym maes peiriannau trwm ac adeiladu a fyddai'n galluogi'r dysgwyr i weithio ac ehangu eu sgiliau yn y diwydiant adeiladu.