Tryciau dadlwytho o'r tu cefn NPORS (N205)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Part-time
- Hyd:
4 diwrnod dros 1 wythnos
Tryciau dadlwytho o'r tu cefn NPORS (N205)Short Course
Disgrifiad o'r Cwrs
Darparu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r meysydd canlynol:
● Dealltwriaeth sylfaenol o'r diwydiant, peryglon gweithio yn y diwydiant a chyfrifoldebau gweithredwyr
● Gwybodaeth ymarferol o lawlyfr y gwneuthurwr ar gyfer y peiriant dan sylw
● Y gallu i leoli ac adnabod prif gydrannau'r peiriant ac esbonio eu pwrpas
● Y gallu i leoli ac adnabod y rheolyddion allweddol ac esbonio eu pwrpas
● Cynnal yr holl wiriadau cynweithredol, yn unol â gofynion y gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol
● Dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) addas ar gyfer tryc dadlwytho o'r tu cefn
● Cynnal yr holl wiriadau diogelwch angenrheidiol yn y man gwaith
● Paratoi'r tryc dadlwytho o'r tu cefn ar gyfer ei ddefnyddio a defnyddio'r peirianwaith yn ddiogel ac yn effeithlon
● Ystyriaethau amgylcheddol
● Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o weithdrefnau llwytho a dadlwytho ar gyfer cludo â pheiriant
● Cyflawni'r holl dasgau sydd eu hangen wrth orffen sifft a diffodd y peiriant
Gofynion mynediad
Wedi cwblhau prawf Sgrin Gyffwrdd CSCS yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae trwydded yrru'n ddymunol ond nid yn hanfodol.
Dealltwriaeth dda o Saesneg llafar ac ysgrifenedig
Cyflwyniad
Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth
Arddangosiadau ymarferol
Ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor.
Asesiad
Asesiad ymarferol
Arholiad theori.
Dilyniant
Cyrsiau hyfforddi eraill ym maes peiriannau trwm ac adeiladu a fyddai'n galluogi'r dysgwyr i weithio ac ehangu eu sgiliau yn y diwydiant adeiladu.