Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Siroedd Dinbych a Chonwy
Oes gennych chi awydd astudio i feithrin sgiliau newydd, ennill cymwysterau neu ddilyn diddordeb?
Mae ein rhaglenni Fin Nos a Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrsiau a gweithgareddau dysgu sydd wedi trawsnewid bywydau miloedd o oedolion.
Rydym yn cynnig cyrsiau i oedolion, cyrsiau yn y gymuned a chyrsiau nos ledled gogledd Cymru lle gallwch:
- feithrin eich sgiliau a magu hyder.
- gwella'ch cyfleoedd o ran gwaith.
- dysgu sgìl neu gael diddordeb newydd a gwneud ffrindiau newydd yr un pryd!
Beth bynnag yw'ch diddordebau, bydd gennym yn sicr gwrs sy'n addas i chi!
Ewch i wefan Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Siroedd Dinbych a Chonwy i gael gwybod rhagor.

EIN PARTNERIAID:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Dewch i wybod mwy...
Cyngor Sir Ddinbych
Dewch i wybod mwy...
Addysg Oedolion Cymru
Dewch i wybod mwy...