Gwybodaeth i Brentisiaid a Hyfforddeion
Gwybodaeth i Brentisiaid a Hyfforddeion
Diweddariad diwethaf: 5/1/2022
Fydd fy Asesydd yn dal i ymweld â mi yn y gweithle?
Bydd. Bydd eich Asesydd yn cysylltu i weld a allwn ni ddod i ymweld â chi o hyd. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn trefnu ymweliad ar-lein o bell.
Ydy hi'n dal yn bosibl i mi ddod i safleoedd y coleg?
Ydy, ond efallai y bydd rhaid rhannu eich grŵp er mwyn sicrhau eich bod yn cadw pellter cymdeithasol. Byddwn hefyd yn gofyn i chi wisgo cyfarpar diogelu personol priodol pan fyddwch yn ymweld ag unrhyw gampws.
Mae gennyf bryderon am ddiogelwch yn fy ngweithle?
Os ydych yn brentis a bod gennych bryderon am y mesurau diogelwch yn eich gweithle, siaradwch â'ch cyflogwr a chysylltwch â'ch asesydd neu swyddog lleoliad gwaith i roi gwybod iddynt beth sy'n digwydd.