Ffioedd cyrsiau - Cyrsiau Gradd
Gwybodaeth am ffioedd cyrsiau a chostau ychwanegol.
Cyrsiau llawn amser – mynediad ym mis Medi 2025
Hysbysiad pwysig:
Mae ffioedd dysgu 2025/26 ar gyfer cyrsiau gradd llawn amser wrthi'n cael eu hadolygu. Bydd unrhyw newidiadau i'r ffioedd yn ddibynnol ar gymeradwyaeth reoleiddiol, ac fe fyddwn ni'n diweddaru'r dudalen hon cyn gynted ag y byddant wedi cael eu cymeradwyo.
Dylai myfyrwyr sicrhau, cyn cofrestru ar gwrs, eu bod wedi sicrhau cyllid i dalu eu ffioedd dysgu a'u bod wedi cyllido ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau.
- Dim costau i’w talu ymlaen llaw: Bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn gymwys i gael cyllid tuag at eu ffioedd dysgu trwy Cyllid Myfyrwyr Cymru.
- Ffioedd dysgu dangosol: Ar hyn o bryd mae ffioedd dysgu cyrsiau gradd llawn amser yn £8,300 y flwyddyn. Mae'r swm hwn yn cael ei adolygu, a bydd unrhyw newidiadau'n cael eu rhannu'n fuan.
- Addasiadau i'r ffioedd blynyddol: Os bydd y ffioedd yn cael eu codi, ni fyddant yn uwch na'r lefel uchaf a ganiateir yng Nghymru (£9,250 y flwyddyn yn codi i £9,535 o fis Medi 2025 ymlaen).
- Mae bwrsarïau ar gael: Gall myfyrwyr fod yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol.
Cysylltir yn uniongyrchol i roi diweddariad i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais cyn 10/03/2025.
Ffioedd ar gyfer myfyrwyr sy'n parhau (o 2024/25 i 2025/26)
I ddysgwyr sy'n mynd ymlaen yn ddi-dor i'r lefel astudio nesaf yn 2025/26:
- Lefel 4 i Lefel 5: £8,300
- Lefel 5 i Lefel 6: £8,300
Dylai myfyrwyr ailymgeisio am gyllid yn unol â chyfarwyddiadau Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Cyrsiau rhan-amser
- Mae ffioedd dysgu 2025/26 ar gyfer cyrsiau rhan-amser wrthi'n cael eu hadolygu.
- I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Gwasanaethau i Ddysgwyr a dewch yn ôl yn rheolaidd i wirio am ddiweddariadau.
- Cysylltir yn uniongyrchol i roi diweddariad i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais cyn 10/03/2025.
Costau Ychwanegol yn gysylltiedig â'r Cwrs
Nid yw'r ffioedd dysgu yn cynnwys yr holl gostau sy'n gysylltiedig ag astudio. Dyma enghreifftiau o gostau ychwanegol, ond fe all fod rhai eraill hefyd:
- Costau teithio a lleoliadau gwaith.
- Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a gwahardd (pan fo'u hangen).
- Deunyddiau cwrs, offer arbenigol, a meddalwedd.
- Argraffu ychwanegol (yn ychwanegol i'r lwfans argraffu o £30 mae'r coleg yn ei roi i fyfyrwyr gradd).
- Ffioedd yn gysylltiedig â'r seremoni raddio.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau'r cyrsiau unigol neu siaradwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr.
